Lefel-A CBAC Astudiaethau'r Cyfryngau
Gwybodaeth ychwanegol
| Modd: | |
|---|---|
| Lefel: | |
| Hyd: |
Ydych chi wedi sylwi bod negeseuon cyfryngau yn dod yn rhan gynyddol o’n bywydau bob dydd, boed yn gyrchu fideos ar eich ffôn clyfar, gwylio hysbysebion teledu, gwrando ar y radio, edrych ar bosteri neu wrando ar gerddoriaeth?
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Bydd dewis y cwrs hwn yn helpu i ddatblygu eich sgiliau dadansoddol, creadigol a gwerthusol sy’n ymwneud â phob math o gynhyrchu cyfryngol o safbwynt cynulleidfa a safbwynt sefydliadol.
Mae bod yn ‘llythrennog yn y cyfryngau’ yn dod yn fwyfwy pwysig yn y gymdeithas sy’n datblygu’n gyflym heddiw.
Drwy gydol eich amser ar y cwrs hwn byddwch yn cydnabod y dylanwad y mae’r cyfryngau yn ei gael arnom, yn ogystal â’r tueddiadau sydd ar ddod yn niwylliant heddiw o bob rhan o’r byd.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Chwech GCSEs at grade C or above (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) to include:
- Saesneg Iaith a Llenyddiaeth/Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth
- A Fathemateg a Rhifedd
- Saesneg Iaith a Llenyddiaeth/Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth gradd BB
- Gwiriwch y Grid Opsiynau Lefel AS i weld a yw'r pwnc hwn yn cyd-fynd â'ch rhaglen ddewisol
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu cyfarfod cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae Lefel-A Astudiaethau’r Cyfryngau yn darparu ystod gyffrous o fodiwlau sy’n gofyn cwestiynau beirniadol am y diwydiant cyfryngau: Beth maen nhw’n ceisio ei gyfathrebu? Pa mor amlwg yw eu neges?
How obvious is their message?
A yw’r cyfryngau yn adlewyrchu realiti neu a yw’n ceisio rheoli’r hyn rydych chi’n ei feddwl? A yw’r cyfryngau yn adlewyrchu realiti neu a yw’n ceisio rheoli’r hyn rydych chi’n ei feddwl?
Byddwch yn dysgu am hanes, datblygiad, defnydd cyfoes a pherthnasedd cylchgronau, papurau newydd, y rhyngrwyd, radio a hysbysebu.
Ein nod yw eich galluogi i ffurfio eich barn bersonol eich hun ar ystod eang o bynciau, wrth ddatblygu eich gwybodaeth a dealltwriaeth o: gyfathrebu, diwylliant, gwleidyddiaeth a dinasyddiaeth.
Bydd yr unedau i’w hastudio yn cynnwys:
- Ymchwilio i’r cyfryngau
- Creu cynhyrchiad cyfryngol
- Cyfryngau yn yr oes fyd-eang
- Creu cynhyrchiad traws-gyfrwng
Mae dysgwyr hefyd yn cwblhau Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch ac mae gofyn iddynt ddatblygu eu sgiliau hanfodol (sgiliau cyfathrebu/rhifedd a digidol). Bydd dysgwyr hefyd yn mynychu tiwtorial grŵp wythnosol.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
- pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg
Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.
Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.
Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk
Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.
Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:
Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd
Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Arholiad ysgrifenedig
- Cwblhau prosiect mawr terfynol
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gall y cwrs hwn arwain at ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa mewn ystod amrywiol o fusnesau gan gynnwys: Marchnatwr Digidol, Prynwr Cyfryngau, Cynlluniwr Cyfryngau, Ymchwilydd Cyfryngau, Cynhyrchydd Cerddoriaeth, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus, Rhedwr – Darlledu/Ffilm/Fideo, Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol, Cynhyrchydd Teledu/Ffilm/Fideo, Rheolwr Cynnwys Gwe.
Ydych chi’n ystyried astudio ar lefel gradd ar ôl y cwrs hwn? Ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
