Cynnal a Chadw Adeiladu – NVQ

Cynnal a Chadw Adeiladu – NVQ
NVQ Lefel 2 Galwedigaethau Cynnal a Chadw
Cyflymwch eich gyrfa yn y diwydiant adeiladu gyda’r NVQ hwn sy’n seiliedig ar waith, sydd wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau ymarferol a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ragori yn eich maes. Mae’r cymhwyster hwn yn eich galluogi i gael profiad ymarferol wrth ennill tystysgrif gydnabyddedig, gan wella eich cyflogadwyedd ac agor cyfleoedd ar gyfer dyrchafiad.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu sy’n dymuno ennill cymwysterau cydnabyddedig, a allai arwain at gamu ymlaen yn eu gyrfa neu statws cerdyn CSCS. Bydd dysgwyr yn datblygu ac yn dangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth, eu hymddygiad, eu sgiliau a’u harferion mewn atgyweirio a chynnal a chadw adeiladu. Mae’n addas ar gyfer gweithwyr sy’n cyflawni amrywiaeth o dasgau yn y gweithle nad ydynt i gyd yn gysylltiedig â’r un grefft.
Rhaid cwblhau pob cymhwyster o fewn 12 mis i gofrestru.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Dim gofynion mynediad ffurfiol
- Rhaid i ymgeiswyr Lefel 3 feddu ar gymhwyster Lefel 2 perthnasol neu o leiaf dwy flynedd o brofiad yn y diwydiant
- Bydd disgwyl i chi fod mewn swydd berthnasol
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
- Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Amherthnasol
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Unedau Gorfodol:
- Cydymffurfio ag iechyd, diogelwch a lles cyffredinol yn y gweithle
- Cydymffurfio ag arferion gwaith cynhyrchiol yn y gweithle
- Symud, trin a storio adnoddau yn y gweithle
Unedau Dewisol – ystod o unedau, yn dibynnu ar rôl y swydd, ond gan gynnwys:
- Rhoi systemau paent ar frwsh neu rolio
- Cynnal gwaith saer nad yw’n strwythurol
- Cynnal a chadw to llechi a theils
- Atgyweirio a chynnal a chadw strwythurau maen
- Teilsio arwynebau waliau a lloriau
- Paratoi arwynebau ar gyfer plastro, teilsio neu beintio
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
- pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg
Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.
Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.
Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk
Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.
Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:
Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd
Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
- Ymweliadau gan eich aseswr â'ch gweithle
- Tystiolaeth gan gyflogwyr neu oruchwylwyr
Beth alla i ei wneud nesaf?
Mae llawer o ddysgwyr yn symud ymlaen i gymwysterau lefel uwch yn yr un grefft, neu gymwysterau lefel uwch mewn rheoli adeiladu.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Byddai’n fuddiol, ond ddim yn hanfodol, dod â’ch dyfais/gliniadur eich hun i gefnogi eich astudiaethau
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim costau ychwanegol
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Modd: | |
---|---|
Lefel: | |
Duration: | 1 flwyddyn |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf