Yn ddiweddar, teithiodd un ar bymtheg o ddysgwyr Lefel-A Hanes i Berlin gan ymweld ag un ar ddeg o leoliadau hanesyddol i ddyfnhau eu dealltwriaeth o gyfnod hanesyddol Weimar a’r Almaen Natsïaidd 1918-1945.
Aeth tri darlithydd Lefel-A gyda’r dysgwyr: Sarah-Kay Tushingham-Ford, Susann Barraclough a Chris Urack. Mae Susann a Chris ill dau yn siaradwyr Almaeneg yn rhugl ac mae ganddyn nhw gysylltiadau personol â Berlin, chwalodd hyn y rhwystrau iaith gan ddyrchafu profiad a gwybodaeth ddiwylliannol y dysgwyr.
Tua 100,000 o gamau a 53 milltir yn ddiweddarach, ymwelodd y dysgwyr ag un ar ddeg o dirnodau hanesyddol mewn pedwar diwrnod: Bebelplatz, Lustgarten, Cofeb Neue Wache, Amgueddfa Iddewig, Amgueddfa Topograffeg Terfysgaeth, Porth Brandenburg, Y Reichstag, Stadiwm Olympaidd, Cynhadledd House of Wannsee a Gwersyll-garchar Sachsenhausen.
I dorri ar y daith hanesyddol ddwys, ymwelodd y dysgwyr hefyd â’r siop adrannol boblogaidd Ka De We, gan edmygu celf stryd gymdeithasol-wleidyddol a mwynhau bwyd lleol.
Dywedodd dysgwr Hanes Lefel-A, Dylan James Charlton: “Yn Berlin gwelais i fwrlwm o fywyd, mewn sawl ffordd nad o’n i wedi gallu gwneud o’r blaen. O henebion mawreddog i wahaniaethau ym mhrisiau’r archfarchnadoedd, dangosodd y daith i Berlin agweddau gwahanol y ddinas, o ddiwylliant a phensaernïaeth i’r pethau syml fel arddangosfeydd gwaith celf lleol a pherfformwyr stryd. Roedd rhywbeth at ddant pawb.
“A gellir dadlau yn bwysicaf oll, roedd hanes difrifol y ddinas yn cael ei gydbwyso gan yr hwyl a’r chwerthin y gallen ni eu mwynhau wrth weld Berlin am yr hyn ydyw: dinas heb fod yn ddu a gwyn, ond ehangder o liwiau yn benderfynol o fod yn well nag yr oedd o’r blaen.”
Ychwanegodd y Darlithydd Hanes ac Athroniaeth, Moeseg, Credoau a Gwerthoedd, Sarah-Kay Tushingham-Ford:
“Roedd yn anrhydedd i mi fynd â’r dysgwyr ar daith mor ddwys o amgylch Berlin, roedd yn un a gafodd effaith nid yn unig arnyn nhw’n gorfforol ond yn feddyliol hefyd, roedd y pynciau a gafodd sylw ar y daith yn emosiynol ac yn ingol iawn o safbwynt hanesyddol a safbwynt cyfoes/modern, yn enwedig gyda’r hinsawdd bresennol.
“Mae llawer o’r pynciau dan sylw dal yn gyhoeddus ar draws y byd a rhoddodd y cyfle hwn brofiad uniongyrchol i’r dysgwyr o ôl-effeithiau materion o’r fath.
“Roedd y dysgwyr yn ardderchog trwy gydol y daith ac yn cynrychioli ein coleg yn dda, ac ro’n i’n falch iawn ohonyn nhw i gyd.”
Gallwch weld mwy am ein cyrsiau Lefel-A yma