Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Ar y rhestr fer ar gyfer y Wobr Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Group of staff sitting on steps.

Mae’r tîm dysgu seiliedig ar waith yng Ngholeg Sir Benfro wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru (WWRPB).

Wedi’u cynllunio i arddangos y gwaith a wneir gan y sector iechyd a gofal cymdeithasol ar draws gorllewin Cymru, mae’r gwobrau’n amlygu’r arloesiadau diweddaraf ac yn rhannu’r hyn a ddysgwyd gan bartneriaid ar draws y rhanbarth.

Mae’r gwobrau hefyd yn gyfle i ddathlu’r gwaith rhagorol a wneir gan staff iechyd a gofal cymdeithasol (gan gynnwys gwirfoddolwyr) ar draws y rhanbarth. Roedd unigolion, timau, grwpiau, a sefydliadau o bob sector—cyhoeddus, preifat, trydydd sector a gwirfoddol, yn gymwys i enwebu eu hunain neu gael eu henwebu gan eraill mewn cyfle i rannu cyflawniadau gyda chydweithwyr a dathlu effaith gyfunol y sector.

Ar gyfer gwobrau eleni gwahoddodd y WWRPB enwebiadau mewn chwe chategori: Trawsnewid drwy Arloesedd; Gofal Integredig; Tîm y Flwyddyn; Cydgynhyrchu; Datblygu’r Gweithlu; a Chyfraniad Eithriadol i Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae’r tîm yn falch o fod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Datblygu’r Gweithlu sy’n ceisio dathlu tîm neu brosiect sydd wedi effeithio’n sylweddol ar les staff trwy weithredu menter gweithlu llesiant neu adnoddau y tu hwnt i ofynion eu rôl. Gyda lles y gweithlu yn hollbwysig i lwyddiant sefydliad sy’n gosod llesiant wrth galon eu gwaith yw un o brif flaenoriaethau’r tîm.

Bydd dau aelod o’r tîm nawr yn mynychu digwyddiad yn Stadiwm Parc Y Scarlets yn Llanelli ar ddydd Iau 14 Mawrth lle byddan nhw’n darganfod a ydyn nhw wedi ennill. Bydd y Seremoni Wobrwyo yn dilyn thema gweledigaeth “Ymhellach, Yn Gyflymach, Gyda’n Gilydd” Llywodraeth Cymru a menter Cymru Iachach. Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar arddangos y datblygiadau arloesol a’r arferion gorau diweddaraf ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â dathlu cyflawniadau unigolion a sefydliadau sy’n gweithio i wella iechyd a llesiant pobl Cymru.

Shopping cart close