Mae Coleg Sir Benfro yn falch o gyhoeddi ei bartneriaeth â’r Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Datblygiad Mentergar Creadigol (IICED) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wrth roi’r offeryn SCAFFOLD ar waith am y tro cyntaf yn y DU.
Cynlluniwyd y fenter strategol hon i wella galluoedd rheolwyr cwricwlwm, gan eu grymuso i integreiddio strategaethau addysgol arloesol sy’n canolbwyntio ar y trawsnewidiadau gwyrdd a digidol a Chwricwlwm i Gymru, Dyfodol Llwyddiannus.
“Mae’r sesiwn hyfforddi arloesol hon, a gynhelir yng Ngholeg Sir Benfro, yn nodi ymddangosiad cyntaf y DU ar yr offeryn SCAFFOLD, a ddatblygwyd yn wreiddiol gan y Sefydliad Hyfforddiant Ewropeaidd (ETF) a’r Ganolfan Ymchwil ar y Cyd (JRC) gyda chyfraniadau sylweddol gan IICED PCYDDS. Mae’r offeryn, sy’n hwyluso datblygiad cymwyseddau traws mewn dysgwyr, wedi’i deilwra’n benodol i ddiwallu anghenion addysgwyr modern a rheolwyr cwricwlwm” Hazel Israel, PCYDDS.
Yn ystod y gweithdy, bu rheolwyr cwricwlwm o wahanol adrannau yng Ngholeg Sir Benfro yn ymgysylltu â’r offeryn SCAFFOLD i archwilio dulliau arloesol o addysgu sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau gwyrdd a digidol y sector addysgol heddiw. Mae pwyslais yr offeryn ar gymwyseddau mentergar, gwyrdd a digidol yn helpu addysgwyr i ddylunio a gweithredu gweithgareddau dysgu sy’n ddeinamig ac yn canolbwyntio ar y dyfodol.
Mynegodd Jackie Mathias, Pennaeth Cynorthwyol, Coleg Sir Benfro ei brwdfrydedd ynghylch y fenter: “Trwy fabwysiadu’r offeryn SCAFFOLD a’r fframwaith EntreComp yma yng Ngholeg Sir Benfro, nid dim ond diweddaru ein dulliau addysgu yr ydym; rydym yn arwain y ffordd wrth baratoi ein haddysgwyr a’n myfyrwyr ar gyfer y newidiadau sylweddol tuag at gynaliadwyedd a thechnoleg ddigidol.
Mae’r cydweithio rhwng Coleg Sir Benfro a’r Drindod Dewi Sant trwy IICED yn enghraifft o botensial partneriaeth wrth hyrwyddo arferion addysgol sy’n cefnogi newidiadau cymdeithasol a thechnolegol sylweddol.
“Mae’r fenter hon hefyd yn amlygu addasrwydd offeryn SCAFFOLD i leoliadau addysgol amrywiol, gan atgyfnerthu ei effeithiolrwydd ar draws pob cyfadran waeth beth fo’r maes pwnc.” Hayley Williams, Rheolwr Datblygu Cwricwlwm.
Mae Coleg Sir Benfro yn parhau i fod yn ymrwymedig i integreiddio offer a methodoleg blaengar yn ei gwricwlwm er mwyn paratoi myfyrwyr yn well ar gyfer heriau’r byd modern. Mae gweithrediad llwyddiannus yr offeryn SCAFFOLD yn gosod meincnod newydd ar gyfer arloesi addysgol yng Nghymru a thu hwnt.