Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Dod â Betsi i Hwlffordd

Older lady in traditional Welsh clothing on wooden rocking chair holding a book.

Mae cwmni theatr newydd yn dod â’i gynhyrchiad, ‘Daughter of Bala’, chwedl ryfeddol am y nyrs ar faes y gad a’r arwres Gymreig Betsi Cadwaladr i lwyfan Theatr Myrddin. Mae’r cynhyrchiad cyfareddol hwn yn addo taflu goleuni ar fywyd rhyfeddol Betsi Cadwaladr, y mae ei gweithredoedd anhunanol o ddewrder a gwytnwch wedi gadael ôl parhaol ar hanes.

Mae’r Cwmni Theatr Her Story yn fenter greadigol ddeinamig a gychwynnwyd gan bedwar ffrind, pob un yn meddu ar ddoniau amrywiol a chyfoeth o brofiad ar draws pob agwedd ar y theatr.

Dywedodd yr awdur a’r cyfarwyddwr Adele Cordner: “Ces i fy ysbrydoli wrth ddarllen bywgraffiad Betsi a oedd mor gyffrous a gafaelgar fel nad o’n i’n gallu gadael ei stori heb ei hadrodd.

“Arweiniodd Betsi Cadwaladr fywyd mor anhygoel a newidiodd hanes nyrsio maes y gad. Teithiodd i’r Crimea i achub bywydau milwyr a hithau yn ei chwedegau, a dychwelyd i Brydain gan obeithio datgelu diffygion ymateb y llywodraeth i’r rhyfel. Mae ei gwrthdaro â Florence Nightingale yn dyst gwirioneddol i’w hysbryd anorchfygol a’i hawydd i wella safonau nyrsio a’i wneud yn broffesiwn cydnabyddedig y mae heddiw.

“Mae’n stori sydd mor berthnasol ac sy’n atseinio gyda chenhadaeth ein cwmni theatr i archwilio bywydau menywod trwy gydol hanes a heddiw gyda dramâu ysbrydoledig sy’n procio’r meddwl.”

Yr actores Clare Drewett o Gasnewydd sy’n chwarae rhan Betsi. “Roedd Betsi yn ferch go iawn o’r Bala. Roedd hi mor falch o’i hetifeddiaeth ac yn cario ei chariad at y Bala a Chymru gyda hi ble bynnag yr aeth ei hanturiaethau â hi. Mae wedi bod yn fraint wirioneddol dod i adnabod y fenyw ryfeddol hon a hanes ei bywyd hudolus,” meddai. “Alla’ i ddim aros i fynd â chynulleidfaoedd gyda mi ar y daith o’i dechreuadau cyffredin yng Nghymru i’w hanturiaethau byd-eang mewn gwasanaeth, lle daeth ar draws cyd-Gymry yng nghorneli mwyaf annisgwyl y byd. Mae’n stori am arwriaeth sydd hefyd yn llawn hiwmor a syrpreisys hyfryd!”

Perfformir ‘Daughter of Bala’ yn Theatr Myrddin ar nos Iau 20fed Mehefin am 7:30pm. Bydd perfformiadau eraill yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, Casnewydd, Pontypridd, Y Fenni, Cas-gwent a’r Bala.

Shopping cart close