Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

ECITB Yn Croesawu’r Ysgoloriaeth Gyntaf Yng Nghymru

ECITB Scholarship students

Coleg Sir Benfro yw’r darparwr hyfforddiant cyntaf yng Nghymru i gyflwyno Rhaglen Ysgoloriaeth arloesol Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu Peirianneg (ECITB).

Crëwyd yr Ysgoloriaeth i ddarparu sianel o dalent newydd i mewn i ddiwydiant tra bod cyflogwyr yn adlamu o effaith economaidd argyfwng Covid-19. Mae pob cwrs yn canolbwyntio ar brinder sgiliau a ganfyddwyd ar gyfer y maes, gan ddarparu sgiliau sylfaen i Ysgolheigion ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus mewn diwydiant. Yn ne-orllewin Cymru, bydd yr Ysgoloriaeth yn mynd i’r afael â bylchau sgiliau mewn weldio a ffabrigo i fodloni gofynion y gweithlu a ragwelir yn y dyfodol.

Dywedodd Chris Claydon, Prif Weithredwr ECITB: “Rwy’n falch iawn o groesawu Coleg Sir Benfro a dymunaf bob llwyddiant iddynt wrth ddarparu Ysgoloriaeth ECITB. Mae’n fenter wych sy’n helpu cyflogwyr i danysgrifennu’r risg o dderbyn newydd-ddyfodiaid, wrth ddarparu safle lansio ar gyfer llawer o yrfaoedd hynod lwyddiannus ym maes adeiladu peirianneg.

“Mae pob rhaglen yn cael ei chreu i ddarparu hyfforddiant sy’n berthnasol i anghenion sgiliau’r ardal a darparu sianel o dalent newydd i ddiwydiant gefnogi’r economi wrth iddi wella.”

Dywedodd Malcolm York, Rheolwr Maes Cwricwlwm Peirianneg yng Ngholeg Sir Benfro: “Mae Coleg Sir Benfro yn falch o fod yn gweithio gyda’r ECITB a chyflogwyr lleol i ddarparu rhaglen Ysgoloriaeth lefel 2 mewn Weldio a Ffabrigo. Cynlluniwyd y rhaglen hon i gynorthwyo dysgwyr i ennill y sgiliau angenrheidiol i symud ymlaen i brentisiaethau uwch.

“Ar hyn o bryd, mae prinder sgiliau cenedlaethol yn y diwydiant ac rydym wedi gweithio gyda chwmnïau adeiladu peirianneg lleol i deilwra’r cymwysterau i fodloni gofynion y gweithlu lleol a chenedlaethol.”

Bydd naw dysgwr yn dechrau’r Ysgoloriaeth cyn bo hir, yn mynychu Coleg Sir Benfro am dri deg awr yr wythnos ar gyfer cyfuniad o weithgaredd ymarferol ac ystafell ddosbarth. Yn ystod blwyddyn academaidd lawn, bydd y dysgwyr i gyd yn cwblhau’r Diploma NVQ L2 – Perfformio Gweithrediadau Peirianneg, Tystysgrif Dechnegol L2 – Weldio a Ffabrigo, Pasbort Diogelwch CCNSG ac yn cwblhau o leiaf dri deg pump awr o brofiad gwaith.

Mae’r ECITB bellach wedi cymeradwyo deg darparwr hyfforddiant ledled Cymru, yr Alban a Lloegr i gyflawni’r Ysgoloriaeth. Mae dysgwyr yn dilyn rhaglen lawn-amser i ffwrdd o’r gwaith dros 1 neu 2 flynedd ac yn ennill cymwysterau peirianneg cydnabyddedig yn ogystal â phasbortau diogelwch safle perthnasol. Mae pob Ysgolor ECITB yn derbyn lwfans adeg tymor o £140 yr wythnos.

I gael rhagor o wybodaeth am Ysgoloriaeth ECITB ewch i: www.ecitb.org.uk/ecitb-scholarships

Shopping cart close