Showing 25–36 of 39 results
-
Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol
£1,000.00Os oes gennych gyfrifoldeb Iechyd a Diogelwch ac eisiau’r cyfle i ennill cymhwyster galwedigaethol proffesiynol heb amser sylweddol i ffwrdd o’r gweithle, bydd y cwrs hwn ar eich cyfer chi!
-
Iechyd Clinigol
Enillwch gydnabyddiaeth a dysgu, ymarfer a datblygu sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa mewn ystod eang o lwybrau ar draws y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Rydym yn cynnig Prentisiaethau ar Lefel 2 a 3 a Phrentisiaethau Uwch ar Lefel 4 a 5.
• Lefel 2 Cefnogaeth Gofal Iechyd Clinigol
• Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol
• Lefel 3 Cefnogaeth Gofal Iechyd Clinigol
• Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)
• Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)
• Lefel 4 Iechyd a Gofal Cymdeithasol
• Lefel 5 Iechyd a Gofal CymdeithasolAr ôl cwblhau Prentisiaeth Uwch (cyfwerth â HNC neu HND), fe’ch gwahoddir i fynychu Seremoni Raddio’r Coleg yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
-
Iechyd Clinigol
£1,000.00Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at y rheini sy’n gweithio ym maes iechyd clinigol, er enghraifft Uwch Gynorthwywyr Gofal Iechyd mewn rolau cymorth nyrsio neu Fflebotomydd.
-
Peirianneg – Cynnal a Chadw, Gweithgynhyrchu a Gwasanaethau Technegol
Mae’r brentisiaeth hon ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y Sector Cynnal a Chadw Peirianneg / Gweithgynhyrchu / Gwasanaethau Technegol Peirianneg.
-
Peirianneg Forol
Mae’r brentisiaeth hon yn cynnwys y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer galwedigaethau mewn peirianneg forol, y gallu i drefnu gwaith a nodi ac atal problemau.
-
Peirianneg Gwneuthuriad Strwythurau Dur Adeiladu – Platio
Wedi’i anelu at blatwyr presennol sy’n gweithio ym maes peirianneg adeiladu, a newydd-ddyfodiaid i’r maes ac mae’n cynnig cyfle i unigolion arddangos a chael eu cydnabod am gymhwysedd galwedigaethol.
-
Peiriannydd Seilwaith Digidol
Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r cymhwysedd sydd eu hangen ar ddysgwyr i weithio fel Gweithwyr TG Proffesiynol mewn ystod eang o swyddi. -
Perfformio Gweithrediadau Peirianneg
Mae’r cymhwyster ar gyfer dysgwyr sydd â rhywfaint o wybodaeth a sgiliau sylfaenol mewn peirianneg cynhyrchu neu gynnal a chadw i’w galluogi i symud ymlaen yn ddiogel i’r gweithle/cyflogaeth neu sydd eisiau cynyddu eu sgiliau a symud ymlaen i gymwysterau uwch yn y sector peirianneg.
-
Plymio
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa “ymarferol” yn y Diwydiant Plymio, Gwresogi ac Awyru, yna dyma’r rhaglen i chi. Bydd dysgwyr yn archwilio’r systemau oer, poeth a gwresogi o fewn eiddo domestig a’r cymwyseddau pibellwaith sylfaenol sy’n sail i waith ar y systemau hyn.
-
Rheolaeth Adeiladu
Gallwch gyflawni HNC mewn Rheolaeth Adeiladu, trwy Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a’i gyflwyno’n lleol yng Ngholeg Sir Benfro yn Hwlffordd. Mae’r brentisiaeth hon wedi’i hanelu at y rheini sydd ag o leiaf 2 flynedd o brofiad perthnasol yn y diwydiant adeiladu neu sydd wedi cwblhau cymhwyster lefel tri mewn adeiladu. Rhaid i chi fod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr yr wythnos, mewn rôl o fewn y diwydiant a fydd yn caniatáu i chi gynllunio a threfnu eich gwaith eich hun a chysylltu ag eraill.
-
Saernïaeth
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa “ymarferol” yn y gwaith saer pensaernïol yna dyma’r rhaglen i chi.
-
Technegol Adeiladu – Amgylchedd Adeiledig a Dylunio
Mae swyddi ar gael ar bob lefel, o grefftau medrus i uwch reolwyr prosiect, gyda llwybrau dilyniant i rolau technegydd a phroffesiynol. Gall y galw mawr am sgiliau adeiladu arwain at gyflogau deniadol i’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant.