show

Diploma Lefel 3 City & Guilds mewn Cynnal a Chadw Peirianneg Bwyd a Diod (1255-51)
Mae’r diwydiant Bwyd a Diod yn cwmpasu rhai o’r cwmnïau mwyaf yn y byd, gan gynhyrchu llawer o’r cynhyrchion rydym yn eu bwyta bob dydd. Mae diwydiannau Bwyd a Diod sy’n prosesu neu’n cynhyrchu cig, pysgod, ffrwythau, tatws, llaeth, coffi, a phopeth yn y canol yn cael eu cefnogi gan beirianwyr medrus iawn i’w cadw i fynd. Y tu hwnt i greu cynhyrchion, mae’n rhaid datblygu a chynnal prosesau a pheiriannau newydd yn ogystal â chael eu rheoli.
Os na chaiff ei gymryd fel prentisiaeth – cost:
POA
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i ddatblygu mewn ymateb i alw cyflogwyr lleol a chenedlaethol. Dylai dysgwr gael cyflogwr priodol yn ei le cyn gwneud cais am y cwrs hwn. Ystyrir y cymhwyster hwn yn gymhwyster hybrid sy’n astudio’r elfennau galwedigaethol a thechnegol gyda’i gilydd.
Bydd dysgwyr yn y Coleg 1 diwrnod yr wythnos am 3 blynedd, fel arfer yn dechrau ym mis Medi.
Dysgwch fwy am ddechrau prentisiaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredi.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd a Gwyddoniaeth
- Mae sgiliau bywyd, profiad ac aeddfedrwydd yn bwysig
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:
- Cydymffurfiad cynnal a chadw peirianneg bwyd a diod
- Arfer gorau cynnal a chadw peirianneg bwyd a diod
- Gwyddor defnyddiau
- Cynnal a chadw mecanyddol mewn gweithrediadau bwyd a diod
- Cynhyrchu cydrannau newydd ar gyfer gweithrediadau bwyd a diod
- Systemau pŵer hylif ar gyfer gweithrediadau bwyd a diod
- Technolegau weldio ar gyfer gweithrediadau bwyd a diod
- Cynnal a chadw trydanol mewn gweithrediadau bwyd a diod
- Gwasanaethau a chyfleustodau o fewn gweithrediadau bwyd a diod
- Thermodynameg
- Mathemateg ar gyfer cynnal a chadw peirianneg bwyd a diod
- Cynnal a chadw trydanol a phrofi mewn gweithrediadau bwyd a diod
- Awtomeiddio mewn gweithrediadau bwyd a diod
- Deall gofynion gosodiadau trydanol BS7671
[text-blocks id=”learn-skills-and-tutorial”]
Mae’r cymhwyster yn cynnwys prentisiaeth a rennir, byddwch yn cael y cyfle i gael eich lleoli gyda chyflogwyr bwyd a diod lleol i gasglu tystiolaeth a dysgu yn y swydd y sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa yn y sector cynnal a chadw peirianneg Bwyd a Diod. Gellir defnyddio hanner tymor a gwyliau’r Pasg i gael profiad gwaith.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
- Tystiolaeth gweithle
- Arholiad ymarferol
- Arholiad ysgrifenedig
- Arholiad ar-lein
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gall y cwrs hwn arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa gan gynnwys: Technegydd Rheoli Ansawdd, Technegydd/Peiriannydd Cynnal a Chadw Mecanyddol, Gwellwr Peirianneg Cynhyrchu, Peiriannydd Cynhyrchu, Technegydd/Peiriannydd Profi Deunyddiau, Dylunydd, Rheolwr Iechyd a Diogelwch, Rheolwr Datblygu Prosiect, Rheolwr Peirianneg, Peiriannydd Cynhyrchu Bwyd, Arweinydd Adran Beirianneg, Cydlynydd Cynnal a Chadw, Peiriannydd Prosiect.
Bydd y cymhwyster hwn yn eich galluogi i symud ymlaen i’r brifysgol i astudio disgyblaeth sy’n ymwneud â pheirianneg fel BEng neu BSc neu i fynd ymlaen i brentisiaeth ar lefel uwch sy’n arwain at brentisiaeth uwch mewn rôl oruchwyliol.
[text-blocks id=”ucas-progression-text”]
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Nid oes angen unrhyw offer ychwanegol
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
Ydych chi'n Gyflogwr sy'n ystyried cymryd Prentis?
Dysgwch fwy am brentisiaethau a’r manteision i chi fel Cyflogwr ar ein tudalen Hyfforddiant Cyflogwyr.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: |