Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Peirianneg – Cynnal a Chadw, Gweithgynhyrchu a Gwasanaethau Technegol

Peirianneg – Cynnal a Chadw, Gweithgynhyrchu a Gwasanaethau Technegol

Two female engineers using tools to  maintain robotic arm.

Peirianneg – Cynnal a Chadw, Gweithgynhyrchu a Gwasanaethau Technegol

Mae’r brentisiaeth hon ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y Sector Cynnal a Chadw Peirianneg / Gweithgynhyrchu / Gwasanaethau Technegol Peirianneg.

ID: 30963

Os na chaiff ei gymryd fel prentisiaeth – cost:

POA

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

  • Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Peirianneg a gyflwynir yng Ngholeg Sir Benfro dros un diwrnod yr wythnos
  • Cymhwyster technegol sy’n cael ei asesu yn y gweithle
  • Cymwysterau Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol oni bai eich bod wedi’ch eithrio.

Bydd y cymwysterau y byddwch yn eu cwblhau yn dibynnu ar natur eich swydd gyda’ch cyflogwr, a chewch eich cynghori ar hyn yn dilyn cyfarfod ag arbenigwr galwedigaethol.

I wneud cais am brentisiaeth, mae’n rhaid bod gennych gyflogwr sy’n fodlon eich cyflogi drwy gydol eich prentisiaeth.

Rhaid i rôl eich swydd eich galluogi i gynllunio a threfnu o leiaf eich gwaith eich hun a chysylltu ag eraill wrth wneud hynny.

Bydd angen i’ch cyflogwr wneud y canlynol:

  • Gallu eich rhyddhau un diwrnod yr wythnos i fynychu’r coleg
  • Rhoi tystiolaeth o yswiriant addas i ni a thystiolaeth o’ch statws cyflogaeth
  • Bod yn hapus i drafod gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch gyda’ch aseswr
  • Talu’r isafswm cyflog cenedlaethol priodol i chi, gan gynnwys diwrnodau’r coleg

Cludiant: Sylwch, ar gyfer cyrsiau prentisiaeth, byddai’r diwrnod coleg fel arfer yn dod i ben unrhyw bryd rhwng 5pm a 7pm, yn dibynnu ar y llwybr prentisiaeth rydych chi’n ei ddilyn. Gan fod bysiau’r coleg yn gadael am 4pm, bydd angen i chi sicrhau bod gennych eich cludiant eich hun yn ei le.


Unrhyw gwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm dysgu seiliedig ar waith, yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 205 neu unrhyw bryd drwy e-bost j.booth@pembrokeshire.ac.uk

Dysgwch fwy am ddechrau prentisiaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredi.

  • Dau TGAU gradd C neu uwch i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd
  • Mae sgiliau bywyd, profiad ac aeddfedrwydd yn bwysig
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
  • Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

Mae gofynion penodol ar gyfer gweithgareddau y mae angen i chi allu eu cyflawni yn y gweithle. Ar ôl i chi wneud cais, bydd aseswr yn cysylltu â chi a’ch cyflogwr i drafod sut i fodloni’r gofynion hyn.

Llwybrau:

  • Peirianneg Gweithgynhyrchu Mecanyddol – peiriannu (troi, melino, malu), cyfansoddion neu osod
  • Cynnal a Chadw Peirianneg – systemau mecanyddol, trydanol, peirianyddol, offeryniaeth a rheolaeth
  • Cymorth Technegol Peirianneg – lluniadu peirianyddol a rheoli ansawdd

Bydd gofyn i chi gwblhau asesiadau ymarferol yn y gweithdy yn ogystal ag asesiad ar y safle o’ch gwaith – gan gynnwys arsylwi, trafodaethau proffesiynol ac edrych ar gynhyrchion gwaith. Bydd aseiniadau ysgrifenedig ar Egwyddorion Peirianneg Sylfaenol ac adroddiadau ysgrifenedig o’r swyddi yr ydych yn eu cyflawni yn y gweithle hefyd yn rhan o’ch asesiad.

Mae lleoedd ar Raglenni Prentisiaeth yn gyfyngedig ac yn amodol ar gapasiti. Nid yw cynnig cyflogaeth yn gwarantu lle ar unwaith yn y coleg.

Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Portffolio o dystiolaeth
  • Tystiolaeth gweithle
  • Os cewch eich derbyn ar gyfer prentisiaeth yna cynhelir adolygiadau gyda’ch aseswr a’ch cyflogwr bob 1-2 fis a disgwylir i chi fod wedi datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth rhwng pob adolygiad

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.

  • Nid oes angen unrhyw offer ychwanegol
  • Offer Diogelu Personol (PPE) a Dillad, y gallwch eu prynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.

Ydych chi'n Gyflogwr sy'n ystyried cymryd Prentis?

Dysgwch fwy am brentisiaethau a’r manteision i chi fel Cyflogwr ar ein tudalen Hyfforddiant Cyflogwyr.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

,

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 14/11/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close