Plymio
Plymio
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa “ymarferol” yn y Diwydiant Plymio, Gwresogi ac Awyru, yna dyma’r rhaglen i chi. Bydd dysgwyr yn archwilio’r systemau oer, poeth a gwresogi o fewn eiddo domestig a’r cymwyseddau pibellwaith sylfaenol sy’n sail i waith ar y systemau hyn.
Os na chaiff ei gymryd fel prentisiaeth – cost:
POA
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Gall pobl o unrhyw oedran ddilyn prentisiaeth mewn Plymio a Gwresogi. Mae mynediad yn amodol ar gyfweliad. Mae prentisiaethau yn cynnwys:
- Hyfforddiant yn y coleg un diwrnod yr wythnos
- Cymhwyster NVQ a asesir yn y gweithle
- Cymwysterau Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol oni bai eich bod wedi’ch eithrio
- Os nad ydych wedi cwblhau “Sylfaen” neu “Graidd”, bydd angen i chi ymgymryd â Chraidd Lefel 2 fel rhan o’r Brentisiaeth hon.
I wneud cais am brentisiaeth, mae’n rhaid bod gennych gyflogwr sy’n fodlon eich cyflogi drwy gydol eich prentisiaeth. Ni ellir cyflawni cymwysterau Plymwaith Lefel 3 heb gyflogaeth yn y grefft.
Bydd angen i’ch cyflogwr wneud y canlynol:
- Gallu eich rhyddhau un diwrnod yr wythnos i fynychu’r coleg
- Rhoi tystiolaeth o yswiriant addas i ni a thystiolaeth o’ch statws cyflogaeth
- Bod yn hapus i drafod gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch gyda’ch aseswr
- Talu’r isafswm cyflog cenedlaethol priodol i chi, gan gynnwys diwrnodau coleg
Darpariaeth:
Yn y coleg: Un diwrnod yr wythnos yn y coleg dros ddwy i bedair blynedd yn dibynnu ar gymwysterau blaenorol a phrofiad diwydiant.
Yn y gweithle: Rhaid i gyflogwyr gytuno i ymweliadau aseswyr wedi’u cynllunio bob mis i’ch arsylwi a hefyd i drafod eich cynnydd gyda goruchwyliwr.
Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf ac mewn cyflogaeth am o leiaf 16 awr yr wythnos. Os nad oes gennych gyflogwr ond yr hoffech chi ymuno â’r cwrs hyfforddi un diwrnod yr wythnos o hyd, dylech ymweld â’r dudalen Addysg Oedolion – Plymio Craidd
Mae lleoedd ar Raglenni Prentisiaeth yn gyfyngedig ac yn amodol ar gapasiti. Nid yw cynnig cyflogaeth yn gwarantu lle ar unwaith yn y coleg.
Dysgwch fwy am ddechrau prentisiaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.
Ydych chi’n Gyflogwr sy’n edrych i gymryd Prentis?
Dysgwch fwy am brentisiaethau a’r manteision i chi fel Cyflogwr ar ein tudalen Hyfforddiant Cyflogwyr.
Cludiant: Sylwch, ar gyfer cyrsiau prentisiaeth, byddai’r diwrnod coleg fel arfer yn dod i ben unrhyw bryd rhwng 5pm a 7pm, yn dibynnu ar y llwybr prentisiaeth rydych chi’n ei ddilyn. Gan fod bysiau’r coleg yn gadael am 4pm, bydd angen i chi sicrhau bod gennych eich cludiant eich hun yn ei le.
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm dysgu seiliedig ar waith, yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 205 neu unrhyw bryd drwy e-bost j.booth@pembrokeshire.ac.ukDysgwch fwy am ddechrau prentisiaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredi.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Two GCSEs at grade C or above to include English Language/First Language Welsh and Mathematics/Numeracy
- A subject related skills test may be required at the course meeting
- Each application is considered on individual merit
- Entry is subject to attending a course meeting or informal interview
- If you do not meet the entry requirements we may offer you another course as an alternative
- Learners must be at least 16 years old
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
- 301 Deall Arferion Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu yng Nghymru
- 302 Gweithio yn y Sector Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu yng Nghymru
- 304 Cynllunio a Gwerthuso Gwaith yn y Sector Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu yng Nghymru
- 303 Deall Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch ac Amgylcheddol yn y Sector Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu
- 305PH Deall Egwyddorion Gwyddonol
- 306PH Deall Systemau Plymio a Gwresogi Craidd
- 307PH Deall Systemau Dŵr Oer
- 308PH Deall Systemau Dŵr Poeth
- 309PH Deall Systemau Gwres Canolog
- 310PH Deall Systemau Dŵr Glaw
- 311PH Deall Systemau Glanweithdra
- 312 Cymhwyso Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch ac Amgylcheddol yn y Sector Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu
- 313 Sefydlu a Chynnal Perthynas yn y Sector Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu
- 314 Cydlynu Safle Gwaith yn y Sector Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu
- 315PH Deall Technegau Gosod, Comisiynu, Gwasanaeth a Chynnal a Chadw Systemau Dŵr Oer
- 316PH Deall Technegau System Dŵr Poeth, Gosod, Comisiynu, Gwasanaeth a Chynnal a Chadw
- 317PH Deall Technegau System Gwres Canolog, Gosod, Comisiynu, Gwasanaeth a Chynnal a Chadw
- 318PH Deall Technegau System Dwr Glaw, Gosod a Chynnal a Chadw
- 319PH Deall Technegau System Glanweithdra, Gosod, Comisiynu, Gwasanaeth a Chynnal a Chadw
- 320PH Perfformio Gwaith Trydanol ar Systemau Plymio a Gwresogi
- 321PH Perfformio Technegau Gosod, Comisiynu, Gwasanaeth a Chynnal a Chadw Systemau Plymio a Gwresogi
Hefyd, bydd yn rhaid i ddysgwyr ddewis un o’r opsiynau canlynol:
- Nwy Naturiol, sy’n cynnwys Rhaglen Dysgu a Reolir BPEC neu;
- Technolegau Amgylcheddol, sy’n cynnwys hyfforddiant ar Bympiau Gwres i MIS3005 a Thermol Solar i MIS3001 (un i’w gyflawni yn y gweithle)
Mae gofynion penodol ar gyfer gweithgareddau y mae angen i chi allu eu cyflawni yn y gweithle. Ar ôl i chi wneud cais, bydd aseswr yn cysylltu â chi a’ch cyflogwr i drafod sut i fodloni’r gofynion hyn.
Mae’r asesiad yn cynnwys 2 x Arholiad Ar-lein, Asesiad ar y safle o brosiect seiliedig ar waith, trafodaeth broffesiynol dan arweiniad ar gwblhau prosiect seiliedig ar waith ac asesiad ACS os dilynir llwybr nwy naturiol.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Continuous assessment during the course
- Practical assessment during the course
- Portfolio of evidence
- Online examination
- If taken as an apprenticeship then reviews with your assessor and employer will take place every 1-2 months and you will be expected to have developed your skills and knowledge between each review
Beth alla i ei wneud nesaf?
Ymgymryd â hyfforddiant pellach yn ein Canolfan Ynni Nwy ACS, Olew OFTEC neu arbenigeddau adnewyddadwy neu symud ymlaen i gymwysterau lefel uwch
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Stationery - you will be told about any specific items before you start the course
- Personal Protective Equipment (PPE) and Clothing, which you can purchase online before you start the course
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
Ydych chi'n Gyflogwr sy'n ystyried cymryd Prentis?
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: | |
| Hyd: |
