Perfformio Gweithrediadau Peirianneg
Perfformio Gweithrediadau Peirianneg
Diploma NVQ Lefel 2 City & Guilds mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg (7682-20)
Mae’r cymhwyster ar gyfer dysgwyr sydd â rhywfaint o wybodaeth a sgiliau sylfaenol mewn peirianneg cynhyrchu neu gynnal a chadw i’w galluogi i symud ymlaen yn ddiogel i’r gweithle/cyflogaeth neu sydd eisiau cynyddu eu sgiliau a symud ymlaen i gymwysterau uwch yn y sector peirianneg.
Os na chaiff ei gymryd fel prentisiaeth – cost:
POA
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cymhwyster yn cwmpasu ystod eang o ddisgyblaethau peirianneg sy’n gysylltiedig â’r sector Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Uwch.
Mae’n eich galluogi i ddangos eich gallu galwedigaethol trwy ddatblygu sgiliau llaw a chael gwybodaeth.
Cludiant: Sylwch, ar gyfer cyrsiau prentisiaeth, byddai’r diwrnod coleg fel arfer yn dod i ben unrhyw bryd rhwng 5pm a 7pm, yn dibynnu ar y llwybr prentisiaeth rydych chi’n ei ddilyn. Gan fod bysiau’r coleg yn gadael am 4pm, bydd angen i chi sicrhau bod gennych eich cludiant eich hun yn ei le.
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm dysgu seiliedig ar waith, yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 205 neu unrhyw bryd drwy e-bost j.booth@pembrokeshire.ac.ukDysgwch fwy am ddechrau prentisiaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredi.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- No formal entry requirements
- You will be expected to be in relevant job role
- Each application is considered on individual merit
- Entry is subject to attending a course meeting or informal interview
- Learners must be at least 16 years old
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd gennych yr opsiwn o deilwra’ch prentisiaeth yn ôl rôl eich swydd, mae unedau cyffredin ar draws y brentisiaeth yn cynnwys;
- Gweithio’n ddiogel mewn amgylchedd peirianneg
- Cyflawni gweithgareddau peirianneg yn effeithlon ac yn effeithiol
- Defnyddio a chyfleu gwybodaeth dechnegol
Arferion PeiriannegEngineering Practices
Yna rhaid i ddysgwyr ddewis o leiaf dair uned ddewisol sy’n cwmpasu ystod eang o ddisgyblaethau peirianneg sy’n cynnwys y canlynol:
- Cynhyrchu Cydrannau gan ddefnyddio Technegau Ffitio â Llaw
- Cynhyrchu Cynulliadau Manylion Awyrennau
- Paratoi a Defnyddio Peiriannau Melino
- Paratoi a Defnyddio Offer Weldio Arc Metel â Llaw
- Cynnal a Chadw Dyfeisiau ac Offer Mecanyddol
Cymorth Technegol
Rhaid i ddysgwyr ddewis o leiaf bum uned ddewisol sy’n cwmpasu ystod o ddisgyblaethau peirianneg sy’n cynnwys y canlynol:
- Cynhyrchu Modelau CAD (Lluniadau) gan ddefnyddio System CAD
- Cynnal Gweithgareddau Gwella Busnes
- Cymwysiadau Peirianneg Cynnal a Chadw Cyffredinol
Tystysgrif Dechnegol
Yn ogystal â hyn, byddwch hefyd yn cwblhau cymhwyster Tystysgrif Dechnegol tra byddwch yn y Coleg am 1 diwrnod yr wythnos.
Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o dechnolegau peirianneg penodol.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Practical assessment during the course
- Workplace evidence
- If taken as an apprenticeship then reviews with your assessor and employer will take place every 1-2 months and you will be expected to have developed your skills and knowledge between each review
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gallai’r cymhwyster hwn arwain dysgwyr llwyddiannus i rolau fel: Peiriannydd, Weldiwr arc metel â llaw, Drafftiwr, Gosodwr systemau awyrennau, Peiriannydd Cynnal a Chadw, Gweithredwr Electroneg, Gweithiwr dalen fetel.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- No additional equipment required
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
Ydych chi'n Gyflogwr sy'n ystyried cymryd Prentis?
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: |
