Peirianneg Forol
Peirianneg Forol
Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Peirianneg Forol (Sylfaen) (2473-12)
Mae’r brentisiaeth hon yn cynnwys y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer galwedigaethau mewn peirianneg forol, y gallu i drefnu gwaith a nodi ac atal problemau.
Os na chaiff ei gymryd fel prentisiaeth – cost:
POA
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r brentisiaeth hon wedi’i hanelu at ddysgwyr a hoffai ennill y wybodaeth a’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen yn ystod eu hyfforddiant cychwynnol i ddod yn Beiriannydd Morol.
Cludiant: Sylwch, ar gyfer cyrsiau prentisiaeth, byddai’r diwrnod coleg fel arfer yn dod i ben unrhyw bryd rhwng 5pm a 7pm, yn dibynnu ar y llwybr prentisiaeth rydych chi’n ei ddilyn. Gan fod bysiau’r coleg yn gadael am 4pm, bydd angen i chi sicrhau bod gennych eich cludiant eich hun yn ei le.
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm dysgu seiliedig ar waith, yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 205 neu unrhyw bryd drwy e-bost j.booth@pembrokeshire.ac.ukDysgwch fwy am ddechrau prentisiaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredi.
- You will be expected to be in relevant job role
- Each application is considered on individual merit
- Entry is subject to attending a course information session or informal interview
- Learners must be at least 16 years old
Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:
- Cyflwyniad i’r diwydiant morol
- Technegau gwella busnes
- Prosesau ac egwyddorion peirianneg forol
- Gwasanaethu a chynnal a chadw peiriannau morol a systemau ategol
- Gwasanaethu a chynnal a chadw systemau gyrru morol
Os nad oes gennych gymwysterau TGAU Mathemateg a Saesneg ar hyn o bryd, efallai y bydd gofyn i chi wneud y canlynol:
- Cymru Sgiliau Hanfodol (CSH) – Sgiliau Cyfathrebu
- Cymru Sgiliau Hanfodol (CSH) – Sgiliau Cymhwyso Rhif
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Practical assessment during the course
- Portfolio of evidence
- If taken as an apprenticeship then reviews with your assessor and employer will take place every 1-2 months and you will be expected to have developed your skills and knowledge between each review
Gall y cwrs hwn arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa gan gynnwys: Peiriannydd Morol, Adeiladwr Cychod, Gosodwr Cychod, Peiriannydd Cynnal a Chadw, Saer, Dylunydd Cychod, Hamdden Morol
Gall cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus arwain at gwrs Peirianneg Forol Lefel 3.
- Stationery - you will be told about any specific items before you start the course
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
Ydych chi'n Gyflogwr sy'n ystyried cymryd Prentis?
Dysgwch fwy am brentisiaethau a’r manteision i chi fel Cyflogwr ar ein tudalen Hyfforddiant Cyflogwyr.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 14/11/2023