Academi Prentisiaethau y GIG
Academi Prentisiaethau y GIG
Diploma Lefel 2 Agored Cymru mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol yng Nghymru
Mae Academi Prentisiaethau Hywel Dda yn rhoi cyfle gwych i chi os ydych am ymuno â’r GIG. Tra ar raglen ddysgu seiliedig ar waith strwythuredig, byddwch yn gallu dysgu wrth ennill, gan ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.
Os na chaiff ei gymryd fel prentisiaeth – cost:
POA
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Darperir y brentisiaeth hon ar y cyd ag Academi Prentisiaethau Hywel Dda ac mae’n darparu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn rolau gofal iechyd ac mae themâu cyffredin yn cynnwys iechyd a diogelwch, ymagweddau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gweithredu dyletswydd gofal, cyfathrebu, datblygiad personol, cydraddoldeb a chynhwysiant.
Mae’r cymhwyster Lefel 2 hwn wedi’i anelu’n bennaf at gynorthwywyr gofal iechyd sy’n gweithio mewn ysbytai clinigol, gan ddarparu cymorth i unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd dan gyfarwyddyd ymarferydd cofrestredig proffesiynol, neu nyrs gofrestredig. Mae’n darparu’r cymhwyster craidd sy’n cydnabod rolau a gyflawnir ar hyn o bryd gan gynorthwywyr gofal iechyd.
Byddwch yn mynychu’r Coleg am un diwrnod yr wythnos.
Dim ond ar adegau penodol o’r flwyddyn y cymerir ceisiadau. Bydd angen i chi wneud cais drwy Hywel Dda yn y lle cyntaf, gwiriwch ag Academi Prentisiaethau Hywel Dda i gael gwybod pryd y bydd y sesiynau nesaf yn agor.
Darllenwch y Canllaw Gwybodaeth 2023
I gael rhagor o wybodaeth, cymwysterau neu ymholiadau am brentisiaethau, cysylltwch ag Academi Prentisiaethau Hywel Dda drwy e-bostio prentisiaeth.academy@wales.nhs.uk neu ffoniwch 07971 480755 neu ewch i’r wefan yn hduhb.nhs.wales/working-for-us/ prentisiaeth-academi
Dysgwch fwy am ddechrau prentisiaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredi.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- No formal entry requirements
- Each application is considered on individual merit
- Entry is subject to attending a course meeting or informal interview
- Learners must be at least 16 years old
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Cymhwyster NVQ y byddwch yn ei gwblhau:
- Un cymhwyster sy’n cyfuno gwybodaeth a chymhwysedd, wedi’i asesu trwy gyfuniad o waith ysgrifenedig ac arsylwi yn y swydd
- Cymwysterau Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol oni bai eich bod wedi’ch eithrio
- Dim ond ar adegau penodol o’r flwyddyn y mae ceisiadau am y brentisiaeth hon ar agor
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Continuous assessment during the course
- Portfolio of evidence
- Workplace evidence
- If taken as an apprenticeship then reviews with your assessor and employer will take place every 1-2 months and you will be expected to have developed your skills and knowledge between each review
Beth alla i ei wneud nesaf?
Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus gall dysgwyr symud ymlaen i brentisiaeth Iechyd Clinigol Lefel 3 os yw ar gael, a/neu barhau â’u cyflogaeth.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Stationery - you will be told about any specific items before you start the course
- Textbooks - you will be told about any specific items before you start the course, most textbooks are available to loan from the college library or online libraries
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
Ydych chi'n Gyflogwr sy'n ystyried cymryd Prentis?
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: |
