Astudiaethau Tir (Gofal Anifeiliaid)

Astudiaethau Tir (Gofal Anifeiliaid)
Dyfarniad Rhagarweiniol BTEC Lefel 1 mewn Astudiaethau Tir
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sydd am ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth i’w galluogi i weithio gydag anifeiliaid yn y dyfodol.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
I ddilyn y cwrs hwn bydd angen diddordeb brwd mewn gweithio yn y diwydiant anifeiliaid a dysgu hanfodion gofalu am amrywiaeth o wahanol anifeiliaid.
Byddwch yn treulio amser yn dysgu am iechyd a lles anifeiliaid yn ogystal â sut i baratoi a chynnal llety anifeiliaid.
Mae’r cwrs hwn wedi’i leoli ar brif gampws y Coleg ac yng Nghanolfan Anifeiliaid Llwynhelyg. Ceir cludiant i ac o Ganolfan Anifeiliaid Llwynhelyg ar fws gwennol o brif gampws y Coleg. Bydd dysgwyr yn treulio’r diwrnod cyfan ar safle.
I ddilyn y cwrs hwn bydd angen i chi fod yn ofalgar, yn gyfrifol ac yn gallu gweithio’n unigol ac fel rhan o grŵp.
Mae’r cwrs pum mis hwn fel arfer yn rhedeg am ddau ddiwrnod yr wythnos o fis Ionawr i fis Mehefin.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- One GCSE at grade D or above to include English Language/First Language Welsh or Mathematics/Numeracy
- Each application is considered on individual merit
- Entry is subject to attending a course information session or informal interview
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Successful completion of relevant programme (including skills) and decision from progression board meeting
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Unedau i’w hastudio:
- Datblygu cynllun dilyniant personol
- Cynnal iechyd anifeiliaid
Mae’r uned yn cynnwys gwaith ymarferol, gyda theori i gefnogi’r dysgu. Mae dysgwyr hefyd yn cael tiwtorialau wedi’u hamserlennu gan eu Tiwtor Cwrs.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
- pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg
Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.
Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.
Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk
Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.
Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:
Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd
Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Continuous assessment during the course
- Practical assessment during the course
- Portfolio of evidence
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gall y cwrs hwn arwain at gyfleoedd gyrfa niferus gan gynnwys: Gweithiwr Cenel, Hyfforddwr Cŵn, Trwsiwr Anifeiliaid Anwes, Triniwr Cŵn, Ceidwad Cefn Gwlad, Swyddog Lles Anifeiliaid, Gweithiwr Canolfan Gofal Anifeiliaid/Achub, Gwarchodwr Anifeiliaid Anwes, Hyfforddwr Marchogaeth, Cynorthwyydd Siop Anifeiliaid Anwes, Derbynnydd Milfeddygol.
Mae dysgwyr yn ystyried beth allai eu camau dilyniant nesaf fod yn ystod y cwrs. Mae’r opsiynau’n cynnwys symud ymlaen i Ddiploma Lefel 1 ym mis Medi.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Stationery - you will be told about any specific items before you start the course
- You will need to provide you own lab coat
- You will need to bring your own device/laptop for this course, click here to find out more
- Personal Protective Equipment (PPE) and Clothing, which you can purchase online before you start the course
- Ensure that your Tetanus vaccination and any other appropriate vaccinations are up to date before commencing work with animals or in the countryside
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- No tuition fee
- We are waiving the Administration Fee for the academic year 2024/25
- There is an annual workshop fee for this course (£20 - £60), payable before you start the course
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf