Ydych chi’n caru anifeiliaid a’r awyr agored? Yna rydych chi yn y lle iawn! Gallwn eich helpu i ennill y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer amrywiaeth o rolau, gan gynnwys dod yn drwsiwr anifeiliaid anwes, cynorthwyydd milfeddygol neu unrhyw nifer o yrfaoedd amaethyddol.

Mae gennym bartneriaethau cryf â chwmnïau ledled y sir sy’n caniatáu i’n myfyrwyr ennill profiad gwaith gwerthfawr fel rhan o’u cymhwyster. Bydd myfyrwyr gofal anifeiliaid yn gweithio ochr yn ochr â chwmnïau fel Folly Farm a meddygfeydd milfeddygol lleol tra bydd dysgwyr cefn gwlad yn ennill sgiliau go iawn yn y gwaith gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Sir Benfro a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Yn ddiweddar rydym wedi buddsoddi yn ein cyfleusterau gyda’n myfyrwyr gofal anifeiliaid Lefel 1 a Lefel 2 wedi’u lleoli yng Nghanolfan Dysgu John Burns yn Withybush tra bydd ein myfyrwyr Lefel 3 wedi’u lleoli yn Folly Farm (darperir cludiant o’r Coleg i bob un o’r lleoliadau hyn).

Yn dangos canlyniad i gyd