Rheoli Anifeiliaid

Rheoli Anifeiliaid
Diploma BTEC Cenedlaethol Lefel 3 mewn Rheolaeth Anifeiliaid
Mae cyfleoedd cyflogaeth yn y sector gofal anifeiliaid yn amrywiol ac yn tyfu ac yn esblygu’n barhaus. Mae’r RSPCA yn amcangyfrif bod tua 20 miliwn o anifeiliaid anwes yn y DU ar hyn o bryd (ac eithrio pysgod!).
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio yn y diwydiant anifeiliaid, dysgu mwy am y cysyniadau ehangach sy’n ymwneud â rheoli anifeiliaid neu symud ymlaen i gymhwyster addysg uwch sy’n ymwneud ag anifeiliaid, yna gallai hwn fod y cwrs i chi. Mae’r cwrs yn astudio rheolaeth ac ymddygiad anifeiliaid, gan gynnwys rhywogaethau domestig, egsotig a gwyllt. Ystyrir hefyd gweithredu arferion iechyd a lles anifeiliaid da.
Mae’r cwrs hwn wedi’i leoli ar dri o gampysau’r Coleg, prif gampws y Coleg, Canolfan Dysgu John Burns a chyfleuster Ystafell Ddosbarth Folly Farm (nodwch bod Folly Farm yn safle Dim Ysmygu). Ceir cludiant i ac o’r lleoliadau hyn ar fws gwennol o brif gampws y Coleg. Bydd dysgwyr yn treulio’r diwrnod cyfan ar y safle.
I ddilyn y cwrs hwn bydd angen i chi fod yn ofalgar, yn gyfrifol ac yn gallu gweithio’n unigol ac fel rhan o grŵp.
<img class=”size-full wp-image-21655 alignleft” src=”https://www.pembrokeshire.ac.uk/wp-content/uploads/2022/01/JohnBurnsLogo.png” alt=”” width=”200″ height=”160″ />
<img class=”alignnone size-full wp-image-21653″ src=”https://www.pembrokeshire.ac.uk/wp-content/uploads/2022/01/folly-farm-logo.jpg” alt=”” width=”150″ height=”150″ />
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd/Gwyddoniaeth
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus gyda gradd teilyngdod neu uwch yn ogystal â phenderfyniad llwyddiannus o gyfarfod y bwrdd dilyniant
- TGAU Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch
- TGAU Mathemateg/Rhifedd gradd D neu uwch
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Byddwch fel arfer yn cwblhau Diploma Cenedlaethol BTEC Lefel 3 yn y flwyddyn gyntaf. Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i’r Diploma Estynedig ym mlwyddyn dau sy’n gyfwerth â thair Lefel A.
Bydd myfyrwyr yn gweithio yn ein llety anifeiliaid yn rheolaidd gan ddatblygu sgiliau ymarferol gydag ystod eang o anifeiliaid domestig ac egsotig. Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys gweithio gyda sefydliadau allanol ar gyfer nifer o’r unedau a astudir.
Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:
- Bioleg Anifeiliaid – Mae dysgwyr yn astudio anatomeg a ffisioleg ar lefel systemig a chellog, ynghyd â gwyddor dosbarthu anifeiliaid.
- Lles a Moeseg Anifeiliaid – Mae dysgwyr yn astudio’r foeseg, y rheoliadau, y ddeddfwriaeth a’r arferion sy’n gysylltiedig â lles anifeiliaid mewn diwydiannau sy’n ymwneud ag anifeiliaid.
- Hwsmonaeth Anifeiliaid Ymarferol – Mae dysgwyr yn archwilio’r sgiliau sydd eu hangen i reoli safonau uchel o iechyd a lles ar gyfer amrywiaeth o anifeiliaid trwy ddiwallu eu hanghenion hanfodol.
- Ymddygiad Anifeiliaid – Mae dysgwyr yn archwilio ymddygiadau normal ac annormal mewn amrywiaeth o anifeiliaid a sut mae’r ymddygiadau hyn yn datblygu.
- Iechyd ac Afiechydon Anifeiliaid – Mae dysgwyr yn astudio dangosyddion cyffredin o iechyd, clefydau ac anhwylderau anifeiliaid, yn ogystal â dulliau trin ac atal er mwyn canfod ac amddiffyn anifeiliaid rhag salwch.
- Profiad Gwaith yn y Sector Anifeiliaid – Mae dysgwyr yn astudio rolau sydd ar gael yn y sector anifeiliaid a’r llwybrau dilyniant sydd eu hangen i’w cyrraedd, a datblygu sgiliau cyfathrebu a chyflogadwyedd trwy astudio a phrofiad gwaith.
- Nyrsio Anifeiliaid – Bydd dysgwyr yn archwilio gwaith milfeddygfa, gan gynnwys rolau staff, cyfrifoldebau, gweithdrefnau, sgiliau nyrsio sylfaenol a rôl cyrff llywodraethu.
- Iechyd a Diogelwch – Bydd hon yn thema graidd drwy gydol y ddwy flynedd, gyda ffocws cryf ar arferion gweithio diogel.
- Bridio Anifeiliaid a Geneteg – Mae dysgwyr yn astudio gwyddor genynnau a ffactorau genetig sy’n dylanwadu ar reolaeth anifeiliaid bridio. Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau i werthuso a gofalu am stoc bridio ac epil.
- Prosiect Ymchwil Ymchwiliol – Mae dysgwyr yn astudio egwyddorion a phwrpas ymchwil yn y sector anifeiliaid ac yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gynnal eu prosiect ymchwil ar raddfa fach eu hunain.
- Hwsmonaeth Da Byw Fferm – Mae dysgwyr yn astudio ehangder a dibenion da byw fferm yn y DU, gan gynnwys technegau hwsmonaeth sydd eu hangen i gynnal lles anifeiliaid a chynorthwyo cynhyrchiant.
- Rheolaeth Busnes yn y Sector Anifeiliaid – Mae dysgwyr yn astudio cysyniadau rheoli busnes ac ehangder busnesau yn y sector anifeiliaid, gan archwilio’r rolau a’r cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig ag ef.
- Ecoleg Bywyd Gwyllt a Rheolaeth Cadwraeth – Mae dysgwyr yn astudio’r dulliau a’r sgiliau sydd eu hangen i ymchwilio i gynefinoedd, ac yn gwneud gwelliannau i gynefinoedd bywyd gwyllt ac adfer bywyd gwyllt.
- Rhyngweithio rhwng Pobl ac Anifeiliaid – Bydd dysgwyr yn datblygu eu sgiliau hyfforddi anifeiliaid, ac yn dylunio a gweithredu rhaglen hyfforddi i gyrraedd nod dymunol.
- Hwsmonaeth Anifeiliaid Ecsotig – Mae dysgwyr yn astudio anghenion hwsmonaeth anifeiliaid egsotig i sicrhau eu hiechyd a’u lles. Bydd dysgwyr hefyd yn astudio’r rheoliadau llywodraethu sy’n berthnasol i anifeiliaid egsotig yn y DU.
- Iechyd a Hwsmonaeth Anifeiliaid Sŵolegol – Mae dysgwyr yn astudio’r sgiliau hwsmonaeth arbenigol sydd eu hangen i weithio gyda chasgliadau sw, gan gynnwys llety, dulliau trin diogel a chynnal iechyd a lles anifeiliaid.
Mae profiad gwaith yn uned orfodol a bydd gofyn i fyfyrwyr gwblhau wyth wythnos o leoliad dros ddwy flynedd y rhaglen.
Yn ogystal â’r brif raglen bydd dysgwyr yn astudio Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) CBAC a all ddarparu pwyntiau UCAS ychwanegol ar gyfer mynediad i brifysgol. Mae’n darparu cyfleoedd i ddysgwyr ehangu eu gwybodaeth, gweithio’n annibynnol a chaffael sgiliau newydd trwy amrywiaeth o weithgareddau a all gynnwys: siaradwyr gwadd, ymweliadau gweithle a phrofiadau ymarferol.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg.
Gradd C neu uwch yn y ddau
Gradd D
Gradd E neu F
Gradd G neu is
Gradd C neu uwch yn y ddau
Os ydych yn astudio cymhwyster Seiliedig ar Waith:
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu
Pob cwrs arall:
- Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl yn feirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, cefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd
Gradd D
- Cwrs ailsefyll TGAU blwyddyn yn y pwnc/pynciau gofynnol
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, ar gyfer rhaglenni llwybr Dilyniant o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig yn unig
Gradd E neu F
Ar gyfer Saesneg:
- Cwrs uwchsgilio blwyddyn neu ddwy cyn TGAU yn y pwnc/pynciau gofynnol
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, ar gyfer rhaglenni llwybr Dilyniant o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig yn unig
Ar gyfer Mathemateg:
- Cwrs ailsefyll TGAU blwyddyn yn y pwnc/pynciau gofynnol
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, ar gyfer rhaglenni llwybr Dilyniant o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig yn unig
Gradd G neu is
- Cwrs uwchsgilio dwy flynedd cyn TGAU yn y pwnc/pynciau gofynnol
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, ar gyfer rhaglenni llwybr Dilyniant o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig yn unig
Bydd enillwyr sy’n astudio ar raglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) yn cael eu hamserlennu i sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
- Tystiolaeth gweithle
- Arholiad ysgrifenedig
- Cwblhau prosiect mawr terfynol
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gall y cwrs hwn arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa gan gynnwys: Milfeddyg, Nyrs Filfeddygol, Gyrfaoedd Cadwraeth ac Ecoleg, Hyfforddwr Cŵn, Hydrotherapydd Cŵn, Trwsiwr Anifeiliaid Anwes, Ymddygiadwr Anifeiliaid, Triniwr Cŵn, Ceidwad Cefn Gwlad, Swyddog Lles Anifeiliaid, Gweithiwr Canolfan Gofal Anifeiliaid/Achub, Gwarchodwr Anifeiliaid Anwes, Hyfforddwr Marchogaeth, Cynorthwyydd Siop Anifeiliaid Anwes, Arolygydd RSPCA, Ceidwad Sŵ, Derbynnydd Milfeddygol.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- Dillad ymarferol/cysurus ar gyfer rhannau o'r cwrs
- Argymhellir bod eich brechiad Tetanws ac unrhyw frechiadau priodol eraill yn gyfredol cyn dechrau gweithio gydag anifeiliaid neu yng nghefn gwlad
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26
- Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy anifeiliaid o £35 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gallwch rentu locer am £10 y flwyddyn a bydd hwn yn cael ei ad-dalu os na fydd y locer wedi'i ddifrodi a bod allweddi'n cael eu dychwelyd
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: | |
Duration: | 2 flynedd |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 21/10/2024