Crochenwaith: Cyflwyniad

Crochenwaith: Cyflwyniad
Tystysgrif cwblhau coleg
Mae’r cwrs yn addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn clai fel cyfrwng i wneud gwrthrychau tri dimensiwn. Os ydych chi wedi bod eisiau rhoi cynnig ar weithio gyda chlai erioed ac wrth eich bodd â’r syniad o wneud eich celf swyddogaethol ac addurniadol eich hun, yna mae’r cwrs hwn ar eich cyfer chi.
SKU: 3204X7551
ID: N/A
£210.00
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Dyma gwrs cyflwyniad i grochenwaith
Os ydych chi wedi bod eisiau gwybod erioed sut y gallwch chi droi darn o glai meddal, hydrin yn waith celf eich hun ar gyfer y cartref, neu fel anrheg i ffrind neu rywun annwyl, yna bydd y cwrs hwn yn dangos sut i chi.
Nid oes angen profiad blaenorol; dim ond diddordeb brwd mewn bod yn greadigol a bod yn agored i archwilio syniadau a phrosesau newydd. Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar amrywiaeth o ddulliau ‘adeiladu â llaw’, gyda’r nod o gynhyrchu cyfres o ddarnau gorffenedig, gwydrog.
Mae’r cwrs wyth wythnos hwn yn rhedeg ar ddydd Mawrth, 18:00 – 20:00, Prif Gampws Coleg Sir Benfro.
Cadwch lygad ar ein tudalen Facebook am gyhoeddiadau.
- Dim gofynion mynediad ffurfiol
- Rhaid i'r dysgwr fod dros 18 oed
Nod y cwrs yw ymdrin ag ystod o dechnegau ‘adeiladu â llaw’, gan gwmpasu dulliau megis pinsio, torchi, adeiladu slabiau, modelu, cerflunio, patrwm arwyneb ac addurno.
Bydd pob sesiwn yn archwilio dull penodol yn dilyn arddangosiad, a fydd yn ei dro yn eich arwain tuag at ganlyniad gorffenedig eich hun. Bydd y sesiynau’n cael eu strwythuro i gynnwys amseriadau ar gyfer sychu, tanio a gwydro, gyda’r nod o gwblhau o leiaf 4 darn ceramig gorffenedig erbyn diwedd y cwrs.
Bydd y cwrs yn eich galluogi i gynhyrchu eitemau swyddogaethol ac addurniadol ar gyfer y cartref, ac fel anrhegion, a fydd yn cael eu tanio mewn odyn a’u gwydro. Bydd dulliau gwydro sylfaenol a gwybodaeth dechnegol hefyd yn cael eu cynnwys.
Bydd y cwrs yn rhoi dealltwriaeth i chi o wahanol ddulliau adeiladu, ymarfer stiwdio celf diogel a chipolwg ar waith eraill fel ysbrydoliaeth.
Bydd y cwrs 8 wythnos hwn nid yn unig yn caniatáu i chi ddatblygu eich sgiliau ymarferol ond bydd hefyd yn hyrwyddo eich creadigrwydd eich hun trwy wneud a thrafod syniadau posibl gydag eraill.
Byddwch yn derbyn tystysgrif cwblhau Coleg ar ddiwedd y cwrs.
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
- Amherthnasol
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn efallai y byddwch am roi cynnig ar un arall o’n cyrsiau cymunedol.
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Deunyddiau celf - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
- Dim costau ychwanegol

Beth yw'r gofynion mynediad?
- Dim gofynion mynediad ffurfiol
- Rhaid i'r dysgwr fod dros 18 oed
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Nod y cwrs yw ymdrin ag ystod o dechnegau ‘adeiladu â llaw’, gan gwmpasu dulliau megis pinsio, torchi, adeiladu slabiau, modelu, cerflunio, patrwm arwyneb ac addurno.
Bydd pob sesiwn yn archwilio dull penodol yn dilyn arddangosiad, a fydd yn ei dro yn eich arwain tuag at ganlyniad gorffenedig eich hun. Bydd y sesiynau’n cael eu strwythuro i gynnwys amseriadau ar gyfer sychu, tanio a gwydro, gyda’r nod o gwblhau o leiaf 4 darn ceramig gorffenedig erbyn diwedd y cwrs.
Bydd y cwrs yn eich galluogi i gynhyrchu eitemau swyddogaethol ac addurniadol ar gyfer y cartref, ac fel anrhegion, a fydd yn cael eu tanio mewn odyn a’u gwydro. Bydd dulliau gwydro sylfaenol a gwybodaeth dechnegol hefyd yn cael eu cynnwys.
Bydd y cwrs yn rhoi dealltwriaeth i chi o wahanol ddulliau adeiladu, ymarfer stiwdio celf diogel a chipolwg ar waith eraill fel ysbrydoliaeth.
Bydd y cwrs 8 wythnos hwn nid yn unig yn caniatáu i chi ddatblygu eich sgiliau ymarferol ond bydd hefyd yn hyrwyddo eich creadigrwydd eich hun trwy wneud a thrafod syniadau posibl gydag eraill.
Byddwch yn derbyn tystysgrif cwblhau Coleg ar ddiwedd y cwrs.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Amherthnasol
Beth alla i ei wneud nesaf?
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn efallai y byddwch am roi cynnig ar un arall o’n cyrsiau cymunedol.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Deunyddiau celf - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim costau ychwanegol
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Dyddiad y Cwrs: | 03 Hydref 2024, 30 Ionawr 2025, 29 Ebrill 2025 |
---|---|
Modd: | |
Duration: | 2 fis |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 11/03/2025