Cymorth Cyntaf – Cynnal Bywyd Sylfaenol a Defnydd Diogel o Ddiffibriliwr Allanol Awtomataidd

Cymorth Cyntaf – Cynnal Bywyd Sylfaenol a Defnydd Diogel o Ddiffibriliwr Allanol Awtomataidd
Dyfarniad Lefel 2 Highfield mewn Cynnal Bywyd Sylfaenol a Defnydd Diogel o Ddiffibriliwr Allanol Awtomataidd (RQF)
Dysgwch sut i ddefnyddio Diffibriliwr Allanol Awtomataidd (AED) yn ddiogel
SKU: 3204X7311
MEYSYDD: Cymunedol, Iechyd a Diogelwch
DYSGWYR: Datblygu Staff, Dysgwyr sy'n Oedolion
ID: N/A
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer y rhai sy’n dymuno cael yr hyfforddiant cynnal bywyd sylfaenol hanfodol, fel CPR, lleoli adferiad, delio â thrawiadau ar y galon, asthma, diabetes a strôc.
Argymhellir y cymhwyster ar gyfer swyddogion cymorth cyntaf yn y gweithle sydd â mynediad at ddiffibriliwr, a bydd yn rhoi’r ddealltwriaeth iddynt fod adfywio cardio-pwlmonaidd a diffibrilio allanol awtomataidd yn rhan hanfodol o’r gadwyn oroesi.
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm Central yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 320 neu unrhyw bryd drwy e-bost central@colegsirbenfro.ac.uk
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae’r pynciau a drafodir yn cynnwys:
- Gallu rheoli claf anymatebol sy’n anadlu’n arferol
- Gallu rheoli clasf anymatebol nad yw’n anadlu’n iawn
- Gwybod sut i ddefnyddio diffibriliwr allanol awtomataidd yn ddiogel
- Gallu defnyddio diffibriliwr allanol awtomataidd yn ddiogel
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg.
Gradd C neu uwch yn y ddau
Gradd D
Gradd E neu F
Gradd G neu is
Gradd C neu uwch yn y ddau
Os ydych yn astudio cymhwyster Seiliedig ar Waith:
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu
Pob cwrs arall:
- Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl yn feirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, cefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd
Gradd D
- Cwrs ailsefyll TGAU blwyddyn yn y pwnc/pynciau gofynnol
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, ar gyfer rhaglenni llwybr Dilyniant o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig yn unig
Gradd E neu F
Ar gyfer Saesneg:
- Cwrs uwchsgilio blwyddyn neu ddwy cyn TGAU yn y pwnc/pynciau gofynnol
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, ar gyfer rhaglenni llwybr Dilyniant o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig yn unig
Ar gyfer Mathemateg:
- Cwrs ailsefyll TGAU blwyddyn yn y pwnc/pynciau gofynnol
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, ar gyfer rhaglenni llwybr Dilyniant o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig yn unig
Gradd G neu is
- Cwrs uwchsgilio dwy flynedd cyn TGAU yn y pwnc/pynciau gofynnol
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, ar gyfer rhaglenni llwybr Dilyniant o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig yn unig
Bydd enillwyr sy’n astudio ar raglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) yn cael eu hamserlennu i sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Arholiad ymarferol
- Arholiad ysgrifenedig
Beth alla i ei wneud nesaf?
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Nid oes angen unrhyw offer ychwanegol
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 03/03/2025