Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Gofal Plant

WJEC Level 3 Children’s Care, Play, Learning and Development | WJEC Level 2 Children's Care, Play, Learning and Development: Core

Mode: Llawn-amser
Level: Lefel 3 - Uwch

ID y Cwrs: 52271

Wrth galon pob gyrfa gofal plant mae angerdd am les a datblygiad plentyn.

Childcare

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

ydd y rhaglen hon yn galluogi dysgwyr i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa mewn lleoliadau gofal plant neu iechyd. Mae wedi’i ddatblygu ar gyfer y rheini sy’n gweithio mewn, neu’n bwriadu gweithio mewn lleoliadau gofal plant rheoleiddiedig gyda theuluoedd a phlant o dan wyth oed a/neu wasanaethau plant y GIG ar gyfer y rheini sy’n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0-19 oed. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau iechyd plant.

 

Mae’r cwrs hwn yn gyfwerth â dwy lefel A. Sylwch, os ydych yn bwriadu symud ymlaen i astudio ar lefel gradd, fel arfer byddai angen yr hyn sy’n cyfateb i dair Lefel A arnoch ac efallai y byddwch am ystyried Gofal Plant Lefel 3 gyda’r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru os yw hyn yn wir – Gofal Plant (Llwybr Bagloriaeth Cymru) – Coleg Sir Benfro

 

  • Five GCSEs at grade C or above (may include one relevant equivalent) to include English Language/First Language Welsh and Mathematics/Numeracy at grade D or above
  • Entry is subject to an enhanced DBS check
  • Each application is considered on individual merit
  • Entry is subject to attending a course information session or informal interview

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Successful completion of relevant Level 2 programme (including skills) and decision from progression board meeting
  • GCSE English Language/First Language Welsh at grade C or above
  • Preferably GCSE Mathematics/Numeracy at grade D or above
  • Entry is subject to an enhanced DBS check

Mae’r cymhwyster hwn yn cyfuno gwybodaeth theori â’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio o fewn y sector.

 

Dros ddwy flynedd, bydd myfyrwyr yn astudio:

 

Rhaglen Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (cyfwerth â dwy Lefel A)

Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Cymhwyster craidd (os nad yw wedi’i gwblhau eisoes)

Cymorth Cyntaf Pediatrig

Diogelwch bwyd

Cymraeg

Rhaglen Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

 

Mae’r agwedd theori yn canolbwyntio ar egwyddorion a damcaniaethau sy’n dylanwadu ar iechyd, lles a datblygiad plant a sut y gall y sector gofal plant ac iechyd plant ymateb i holl anghenion plant 0-19 oed.

 

Mae’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau y mae angen i ddysgwr eu cyflawni o fewn y cymhwyster hwn yn adeiladu ar gynnwys y cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori a’r cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd cymhwyster.

 

Bydd dysgwyr yn gallu dangos eu bod yn:

 

deall, a chymhwyso’n ymarferol, yr egwyddorion a’r gwerthoedd sy’n sail i ofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant

deall, a chymhwyso, yn ymarferol, ymagweddau plentyn-ganolog at ofal, chwarae a dysgu

hyrwyddo a chefnogi datblygiad plant trwy eu hymarfer eu hunain

gwerthuso ymchwil a damcaniaethau i gefnogi ymarfer

yn ymwybodol o bolisïau allweddol o fewn y sector a sut mae’r polisïau hyn yn effeithio ar ddatblygu a darparu gwasanaethau

gweithio mewn partneriaeth â phlant, eu teuluoedd, gofalwyr ac amrywiaeth o weithwyr proffesiynol

myfyrio ar arfer i wella’n barhaus

defnyddio ystod o dechnegau datrys problemau

defnyddio sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol fel y bo’n briodol yn eu rôl

Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd

 

Bydd y cymhwyster, a elwir yn ‘Graidd’ yn rhoi cyflwyniad trylwyr i’r egwyddorion, y gwerthoedd a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio yn sector y Blynyddoedd Cynnar. I gyflawni’r cymhwyster Craidd, rhaid i ddysgwyr gyflawni’r unedau canlynol:

 

Egwyddorion a gwerthoedd Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (0-19 oed)

Iechyd, lles, dysgu a datblygiad

Ymarfer proffesiynol fel Gweithiwr Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant

Diogelu plant

Iechyd a diogelwch mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

 

Bydd gofyn i chi ymgymryd â 700 awr (100 diwrnod) o leoliad gwaith mewn lleoliad blynyddoedd cynnar i ennill y cymhwyster hwn.

 

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
  • pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg

Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.

Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:

Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd

Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.

Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Continuous assessment during the course
  • Portfolio of evidence
  • Workplace evidence
  • Visits from your assessor to your place of work
  • Written examination
  • Completion of a final major project

Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol gan gynnwys: Gweithiwr Chwarae Cynorthwyol, Gwarchodwr Plant, Cynorthwyydd Meithrin, Rheolwr Meithrinfa, Arweinydd Cylch Chwarae, Cynorthwy-ydd Dosbarth, Gweithiwr Gofal y Tu Allan i’r Ysgol, Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu, Cynorthwyydd Anghenion Arbennig, Athro/Athrawes Ysgol Gynradd, Cwnselydd Plant, Gweithiwr Ieuenctid.

Ydych chi’n ystyried astudio ar lefel gradd ar ôl y cwrs hwn? Ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.

  • Text books - you will be told about any specific items before you start the course, most text books are available to loan from the college library or online libraries
  • Specific branded clothing, payable at the start of your course
  • Art materials - you will be told about any specific items during or before you start the course
  • A memory stick/a small portable USB hard drive
  • You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • No tuition fee
  • We are waiving the Administration Fee for the academic year 2024/25
  • There is an annual workshop fee for this course (£20 - £60), payable before you start the course
  • Enhanced DBS Fee - £44, payable on enrolment
  • Transport costs for work placement
  • You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Llyfrynnau Diweddaraf:

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 19/09/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close