Gwaith Barbwr
Diploma NVQ Lefel 2 VTCT mewn Gwaith Barbwr (6008-04)
Wedi’i anelu at drinwyr gwallt cymwys sy’n dymuno ehangu eu sgiliau.
SKU: 1207F7311
MEYSYDD: Trin Gwalt a Harddwch
DYSGWYR: Archebwch Nawr, Dysgwyr sy'n Oedolion
ID: 30822
Mae’r ffioedd fesul blwyddyn academaidd, yn amodol ar newid
£450.00
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae hwn yn gwrs dwys ar gyfer y rhai sydd am ychwanegu gwaith barbwr at eu sgiliau
Cynhelir y cwrs hwn mewn amgylchedd salon masnachol a bydd angen modelau ar fyfyrwyr i gwblhau asesiadau.
Mae’r cwrs hwn fel arfer yn rhedeg un noson yr wythnos, am 19 wythnos, gan ddechrau ym mis Ionawr.
- Bydd disgwyl i chi fod wedi cwblhau'r lefel flaenorol yn llwyddiannus yn y maes pwnc hwn neu debyg
- Bydd disgwyl i chi fod wedi cwblhau'n llwyddiannus neu wedi bod yn astudio Lefel 2 Trin Gwallt
- Mae angen sgiliau cyfathrebu a chyflwyniad personol da
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
Mae’r unedau a astudir yn cynnwys:
- Cynghori ac ymgynghori â chleientiaid
- Siampwio, cyflyru a thrin y gwallt a chroen y pen
- Datblygu a chynnal eich effeithiolrwydd yn y gwaith
- Torri gwallt dynion gan ddefnyddio technegau sylfaenol
- Torri gwallt wyneb i siâp gan ddefnyddio technegau sylfaenol
- Sychu a gorffeniad gwallt dynion
- Creu amlinelliadau a manylion sylfaenol mewn gwallt
Bydd disgwyl hefyd i ddysgwyr wneud profiad gwaith mewn salon.
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
- Arholiad ar-lein
Efallai yr hoffech ystyried un arall o’n cyrsiau rhan-amser.
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Cofbin/gyriant caled USB bach cludadwy
- Gwisg trin gwallt - £32/£58
- Cit barbro - £183
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
- Mae ffioedd gostyngedig dan 19 yn berthnasol - cysylltwch â admissions@pembrokeshire.ac.uk
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 13/07/2024