Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Tystysgrif Lefel 1 CBAC Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mode: Llawn-amser
Level: Lefel 1 - Cyflwyniad

ID y Cwrs: 34198

Gall gyrfa ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol roi boddhad mawr, a gall eich cyflwyno i gyfleoedd lle gallwch weithio gyda rhai o’r unigolion mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau a’u cefnogi. Bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth dda i chi o ba sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus mewn gyrfa yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Delwedd agos o ddwylo iau yn dal llaw hŷn.

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Bydd y cwrs yn eich helpu i ddatblygu eich dealltwriaeth o’r egwyddorion theori, cyfreithiol, seicolegol, cymdeithasol ac addysgol sy’n sail i weithio’n effeithiol i ofalu, cefnogi, grymuso a datblygu eraill.

Datblygwch eich sgiliau cyfathrebu a’ch dealltwriaeth o weithio gydag unigolion amrywiol ac yn aml agored i niwed. Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y dysgwyr hynny a hoffai weithio/bwriadu gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Yn ystod y rhaglen byddwch hefyd yn meithrin eich dealltwriaeth o’r ystod o yrfaoedd yn y sector hwn.

  • Dau TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf
  • Mae mynediad yn amodol ar wiriad DBS manwl
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu cyfarfod cwrs neu gyfweliad anffurfiol

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
  • Mae mynediad yn amodol ar wiriad DBS manwl

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn ennill Dyfarniad Lefel 1 neu Dystysgrif CBAC ar gyfer Paratoi ar gyfer Cyflogaeth: Llwybr Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Fel rhan o’r cwrs hwn byddwch yn astudio’r unedau canlynol:

    • Introduction to the Health and Social Care sector
    • Gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gwaith
    • Cyflwyniad i ymddygiad priodol yn y gweithle
    • Gweithio fel rhan o dîm
    • Cyflwyniad i iechyd a diogelwch yn y gweithle
    • Deall egwyddorion a gwerthoedd
    • Deall diogelu oedolion sydd mewn perygl
    • Deall cyfathrebu effeithiol mewn iechyd a gofal cymdeithasol
    • Rheoli amser yn gynhyrchiol
    • Rheoli arian ar gyfer bywyd gwaith
    • Datblygu dealltwriaeth o gyfathrebu â phlant a phobl ifanc.

Disgwylir i chi ymgymryd â 2 wythnos o leoliad gwaith yn ystod y cwrs hwn.

Fel rhan o’r cymhwyster hwn, byddwch yn cymryd rhan yn ein rhaglen Prosiect Cadarnhaolrwydd. Mae’r rhaglen yn rhedeg bob wythnos, a’i nod yw eich cefnogi i ddatblygu sgiliau a hyder yn eich ymwybyddiaeth emosiynol, cyfathrebu, perthnasoedd ac iechyd a lles.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
  • pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg

Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.

Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:

Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd

Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.

Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Tystiolaeth gweithle

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Cofbin/gyriant caled USB bach cludadwy
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Dim ffi dysgu
  • Ffi DBS Manwl - £54.95, yn daladwy wrth gofrestru
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Llyfrynnau Diweddaraf:

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 21/06/2026
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close