Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Dilyniant

Diploma Estynedig Lefel 3 CBAC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destun

Mode: Llawn-amser
Level: Lefel 3 - Uwch

ID y Cwrs: 55523

Llwybr cryf i unrhyw un sy’n awyddus i adeiladu gyrfa ystyrlon yn cefnogi eraill. Datblygu gwybodaeth fanwl am iechyd, gofal cymdeithasol, a datblygiad dynol, ochr yn ochr â sgiliau ymarferol a phroffesiynol.

older hands holding a ball, with younger hands gently holding arm

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cymhwyster hwn, sy’n seiliedig ar wybodaeth, wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sydd am feithrin dealltwriaeth eang a dyfnder ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol a gwyddoniaeth. Mae’n darparu sylfaen academaidd gref ar gyfer symud ymlaen i’r brifysgol neu fynediad uniongyrchol i gyflogaeth o fewn lleoliadau iechyd neu ofal cymdeithasol.

Mae cwblhau’r Diploma Estynedig yn llwyddiannus ym mlwyddyn dau yn gyfwerth galwedigaethol â thri Lefel A.

  • Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd
  • Mae mynediad yn amodol ar wiriad DBS manwl
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu cyfarfod cwrs neu gyfweliad anffurfiol

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Cwblhau rhaglen Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
  • TGAU Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch
  • TGAU Mathemateg/Rhifedd gradd C neu uwch
  • Mae mynediad yn amodol ar wiriad DBS manwl

Dros ddwy flynedd, bydd dysgwyr yn astudio:

  • Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cymhwyster Egwyddorion a Chyd-destun
  • Tystysgrif VTCT Lefel 2 mewn Iechyd Meddwl

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destun

Bydd hyn yn cwmpasu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, gan ddarparu sylfaen eang ar gyfer addysg bellach a/neu uwch neu gyflogaeth

Bydd y cymhwyster yn cynnwys yr unedau canlynol:

  • Egwyddorion gofal ac arfer diogel o fewn gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau
  • Ffactorau sy’n effeithio ar dwf a datblygiad unigolion yn ystod eu hoes
  • Hyrwyddo hawliau unigolion ar draws eu hoes
  • Deall sut mae amodau cyffredin yn effeithio ar y corff dynol
  • Cefnogi unigolion sydd mewn perygl i gyflawni eu canlyniadau dymunol
  • Gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
  • Anatomeg a Ffisioleg ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol
  • Cefnogi iechyd a llesiant oedolion yng Nghymru i gyflawni canlyniadau cadarnhaol
  • Ymchwilio i faterion cyfoes ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â 100 awr o ymgysylltu â chyflogwyr, gan gynnwys lleiafswm o 60 awr o leoliad gwaith. Mae hyn yn rhan annatod a gorfodol o gwblhau’r cwrs hwn.

Bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau rhaglen gyrchfan ym mhob blwyddyn astudio, a fydd yn cynnwys sesiynau siaradwyr gwadd o sefydliadau fel y GIG, astudiaeth annibynnol ar faes o’u dewis, ynghyd â dysgu sgiliau ymarferol a fyddai’n cael eu defnyddio mewn diwydiant.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
  • pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg

Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.

Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:

Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd

Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.

Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Asesiad mewnol
  • Arholiad ysgrifenedig

Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus a symud ymlaen i raglen lefel uwch arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol gan gynnwys:

  • Cynorthwyydd gofal ambiwlans
  • Cynorthwyydd gofal iechyd
  • Gweithiwr gofal
  • Gweithiwr cymdeithasol
  • Gweithiwr cymorth
  • Mentor dysgu

Ydych chi’n ystyried astudio ar lefel gradd ar ôl y cwrs hwn? Ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Cofbin/gyriant caled USB bach cludadwy
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Dim ffi dysgu
  • Ffi DBS Manwl - £49.50, yn daladwy wrth gofrestru
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Llyfrynnau Diweddaraf:

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 21/06/2026
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close