Cyfryngau Cymdeithaso, Gwefan a Dylunio Graffeg (ar Gyfer Busnesau Bach)
Cyfryngau Cymdeithaso, Gwefan a Dylunio Graffeg (ar Gyfer Busnesau Bach)
Cwrs Agored Dylunio Graffig ar gyfer Busnesau Bach
Wedi’i anelu at gyflwyno dysgwyr i ddylunio graffig effeithiol ar gyfer gwella presenoldeb busnes ar gyfryngau cymdeithasol a gwefannau.
£0.00
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs menter digidol wyth wythnos hwn yn Lefel 3 sydd wedi’i achredu gan Agored Cymru yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sydd â diddordeb mewn sefydlu presenoldeb ar-lein naill ai ar gyfer menter fusnes newydd neu fenter sy’n bodoli eisoes. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, bydd dysgwyr wedi datblygu gwefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol cysylltiedig i sefydlu presenoldeb ar-lein eu busnesau.
Ar ôl y cwrs hwn byddwn yn cynnal cyfle arddull Dragon’s Den lle gall dysgwyr gyflwyno eu syniad busnes, gyda sesiwn cwestiwn ac ateb i ddilyn. Bydd yr enillwyr hyn yn cael eu dewis ar gyfer mentora a gwobrau ariannol, gwobr gyntaf o £750 ac ail wobr o £250.
Sylwch y bydd yn ofynnol i ddysgwyr dalu taliad misol yn uniongyrchol i Wix i dalu am brynu eu henw parth a gwe-letya yn y dyfodol.
- Dim gofynion mynediad ffurfiol
- Dylai fod gennych rai sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol gan gynnwys gallu cadw a lleoli ffeiliau a chael mynediad i wefannau
Byddwch yn dysgu:
- nodi dylunio graffeg da a ddefnyddir mewn cyfryngau cymdeithasol busnes a gwefannau
- creu ffotograffiaeth i’w defnyddio mewn ystod o brosiectau dylunio graffeg
- creu tudalen fusnes gan ddefnyddio llwyfan cyfryngau cymdeithasol
- creu dull marchnata ar gyfer tudalen fusnes cyfryngau cymdeithasol
- creu gwefan ar gyfer busnes bach
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Portffolio o dystiolaeth
Efallai yr hoffech ystyried un arall o’n cyrsiau rhan-amser.
- Bydd angen eich dyfais/gliniadur eich hun a chysylltiad rhyngrwyd da
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
- Mae ffioedd cofrestru/tanysgrifio ar gyfer y cymhwyster hwn
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: | |
Start Date: | Dim Dyddiadau Ar Gael |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 16/04/2024