Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Llwybr Bioleg)

City & Guilds Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destun | Tystysgrif Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Bioleg Ddynol Gymhwysol | Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 City & Guilds: Craidd

Mode: Llawn-amser
Level: Lefel 3 - Uwch

ID y Cwrs: 51873

Uchelgais Llywodraeth Cymru yw datblygu gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol medrus, sy’n uchel ei barch fel proffesiwn a gyrfa o ddewis, ac sy’n cael ei gydnabod am y rôl hanfodol y mae’r sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei chwarae wrth gefnogi unigolion trwy gydol eu hoes.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Llwybr Bioleg)

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar wybodaeth ac ar gyfer y rhai sydd am ddatblygu ehangder a dyfnder gwybodaeth yn ymwneud â’r sector iechyd a gofal cymdeithasol/gwyddoniaeth a symud ymlaen i Brifysgol neu sy’n dymuno chwilio am waith yn y sector gofal iechyd.

Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i wneud cais am raglen Cyrchfan y GIG, rhaglen dwy flynedd gyda’r GIG a Phrifysgol Abertawe; cyfuniad o brofiad gwaith, dosbarthiadau meistr a chwblhau cymhwyster prosiect estynedig gyda phwyntiau UCAS (mae’r opsiwn hwn yn amodol ar gais a chyfweliad ar wahân gyda’r GIG a rhennir y manylion gyda dysgwyr wrth gofrestru ar raglen y Coleg).

  • Five GCSEs at grade C or above (may include one relevant equivalent) to include English Language/First Language Welsh and Mathematics/Numeracy and Double Award Science
  • Entry is subject to an enhanced DBS check
  • Each application is considered on individual merit
  • Entry is subject to attending a course information session or informal interview

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Successful completion of relevant Level 2 programme (including skills) and decision from progression board meeting

Dros ddwy flynedd, bydd dysgwyr yn astudio:

  • Cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destun (cyfwerth â dwy Lefel A)
  • Tystysgrif Estynedig Lefel 3 mewn Bioleg Ddynol Gymhwysol (cyfwerth ag un Lefel-A) a fydd yn cefnogi dilyniant i fyfyrwyr Prifysgol/Addysg Uwch
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cymhwyster craidd, cymhwyster gorfodol ar gyfer unrhyw ddysgwr sy’n dymuno chwilio am waith yn y sector gofal iechyd (os nad yw wedi’i gwblhau eisoes)

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destun

Bydd hyn yn cwmpasu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, gan ddarparu sylfaen eang ar gyfer addysg bellach a/neu uwch neu gyflogaeth.

Bydd y cymhwyster yn cynnwys:

  • Egwyddorion gofal ac ymarfer diogel o fewn gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau
  • Ffactorau sy’n effeithio ar dwf a datblygiad unigolion ar hyd eu hoes a sut mae hyn yn effeithio ar ganlyniadau, anghenion gofal a chymorth
  • Hyrwyddo hawliau unigolion ar draws eu hoes
  • Deall sut mae amodau cyffredin yn effeithio ar y corff dynol
  • Cefnogi unigolion sydd mewn perygl i gyflawni eu canlyniadau dymunol
  • Gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol

Bioleg Ddynol Gymhwysol

Mae’r cymhwyster yn darparu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau a fydd yn paratoi dysgwyr ar gyfer astudiaeth bellach neu hyfforddiant.

Mae’r cynnwys gorfodol yn galluogi dysgwyr i ganolbwyntio ar ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth yn ogystal â sgiliau ymarferol ac ymchwil hanfodol sy’n berthnasol ym meysydd bioleg ddynol gymhwysol a gwyddor iechyd, dros gyfnod estynedig.

Mae’r unedau gorfodol yn cynnwys y meysydd canlynol:

  • Egwyddorion Bioleg Ddynol Gymhwysol
  • Microbioleg Ymarferol a Chlefydau Heintus
  • Bioleg Ddynol a Materion Iechyd
  • Ffisioleg Weithredol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd

Bydd y cymhwyster, a elwir yn ‘Craidd’ yn rhoi cyflwyniad trylwyr i’r egwyddorion, y gwerthoedd a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio yn y sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydag oedolion, plant a phobl ifanc.

I gyflawni’r cymhwyster Craidd, rhaid i ddysgwyr gyflawni’r unedau canlynol:

  • Egwyddorion a gwerthoedd iechyd a gofal cymdeithasol
  • Iechyd a lles
  • Ymarfer proffesiynol fel gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol
  • Diogelu unigolion
  • Iechyd a diogelwch mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Bydd gofyn i chi ymgymryd â 100 awr o ymgysylltu â chyflogwr, gan gynnwys lleiafswm o 60 awr o leoliad gwaith. Mae hyn yn rhan annatod a gorfodol o gwblhau’r cwrs hwn.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
  • pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg

Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.

Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:

Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd

Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.

Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Continuous assessment during the course
  • Portfolio of evidence
  • Written examination
  • Online examination

Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus a symud ymlaen i raglen lefel uwch arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol gan gynnwys: Therapydd Deintyddol, Parafeddyg, Fferyllydd, Cynorthwyydd Gofal Iechyd, Gweithiwr Gofal, Gweithiwr Cymorth, Cynorthwyydd Gofal Brys, Gwyddoniaeth Fforensig a Nyrsio.

[text-blocks id=”ucas-progression-text”]

  • Stationery - you will be told about any specific items before you start the course
  • You will need to provide you own lab coat
  • A memory stick/a small portable USB hard drive
  • You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • No tuition fee
  • We are waiving the Administration Fee for the academic year 2024/25
  • There is an annual workshop fee for this course (£20 - £60), payable before you start the course
  • Enhanced DBS Fee - £44, payable on enrolment
  • You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Llyfrynnau Diweddaraf:

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 20/12/2021
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close