Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Prince2 Practitioner 7fed Ddiweddariad – Ystafell Ddosbarth Rhithwir

Ymarferydd Prince2 7fed Ddiweddariad

Mode: Ar-lein, Rhan-amser, Seiliedig ar waith
Level: Lefel 3 - Uwch

Ardaloedd:

This accredited PRINCE2® Practitioner 7th edition course is designed to provide learners with a working understanding of the PRINCE2® structured project management method.

dyn yn cynnal cyfarfod gyda chynrychiolwyr o amgylch bwrdd ar liniaduron

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cwrs yn cwmpasu maes llafur llawn Sylfaen PRINCE2 ac felly’n cyfarparu dysgwyr nid yn unig i sefyll arholiad yr Ymarferydd, ond hefyd i ddeall ystod eang egwyddorion, themâu allweddol, prosesau a thechnegau PRINCE2®. Y nod yn ystod y cwrs yw cyflawni cydbwysedd effeithiol rhwng llwyddiant yn yr arholiad a’r angen i drosglwyddo sgiliau.

Mae’n ofynnol i ddysgwyr ymgymryd ag astudiaeth ragarweiniol gan ddefnyddio adnoddau dysgu cyn y cwrs a fydd yn cael eu darparu iddynt. Disgwylir hunan-astudio pellach hefyd gyda’r nos ar bob diwrnod cwrs.


Unrhyw gwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm Central yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 320 neu unrhyw bryd drwy e-bost central@colegsirbenfro.ac.uk

  • Dim gofynion mynediad ffurfiol
  • Bydd disgwyl i chi fod wedi cwblhau'r lefel flaenorol yn llwyddiannus yn y maes pwnc hwn neu debyg
  • Rhaid i'r dysgwr fod dros 18 oed

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant

Diwrnod 1

  • Adolygiad PRINCE2
  • Gweithdai arholiad ymarferydd

Diwrnod 2

  • Paratoi ar gyfer arholiad ymarferydd
  • Arholiad Sylfaen Ar-lein – wedi’i drefnu trwy PeopleCert. Amser awgrymedig o 12pm ymlaen ond gall ymgeiswyr ddewis sefyll yr arholiad pan fyddant yn teimlo’n barod.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
  • pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg

Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.

Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:

Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd

Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.

Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Arholiad ar-lein

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn efallai y byddwch am roi cynnig ar un arall o’n cyrsiau seiliedig ar waith.

  • Nid oes angen unrhyw offer ychwanegol

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Dim costau ychwanegol

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Llyfrynnau Diweddaraf:

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 18/11/2025
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
dyn yn cynnal cyfarfod gyda chynrychiolwyr o amgylch bwrdd ar liniaduron
You're viewing: Prince2 Practitioner 7fed Ddiweddariad – Ystafell Ddosbarth Rhithwir £700.00
Add to cart
Shopping cart close