Sgiliau Adeiladu Gwyrdd – Parod i Waith

Sgiliau Adeiladu Gwyrdd – Parod i Waith
Dyfarniad Lefel 2 mewn Ôl-osod / Tystysgrif Lefel 1 mewn Sgiliau Adeiladu Fabric First / Dyfarniad Lefel 1 mewn Iechyd a Diogelwch mewn Adeiladu
Datblygu sgiliau ymarferol mewn adeiladu a phlymio yn ogystal â gwybodaeth am ynni adnewyddadwy a pharatoi ar gyfer prawf cerdyn CSCS.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs hwn yn cyfuno hyfforddiant ymarferol â dysgu yn yr ystafell ddosbarth, a gyflwynir yn ein gweithdai modern a’n mannau addysgu sydd wedi’u cyfarparu’n llawn. Develop practical skills such as constructing external walls and basic plumbing alongside key topics including health and safety, construction principles, and renewable technologies.
Dros gyfnod y cwrs, bydd dysgwyr yn gweithio tuag at dri chymhwyster City & Guilds, gan gynnwys y Dystysgrif Iechyd a Diogelwch. Mae’r dystysgrif hon yn galluogi dysgwyr i sefyll prawf CSCS a chael y cerdyn CSCS; gofyniad ar gyfer cyflogaeth ar y rhan fwyaf o safleoedd adeiladu.
Mae’r cwrs yn cynnwys 10 wythnos o hyfforddiant yn y coleg ynghyd â 2 wythnos o brofiad gwaith gyda chyflogwr, gan roi amlygiad gwerthfawr i’r diwydiant. Cynhelir cyfweliad ffug gyda chyflogwr hefyd a darperir dolenni i swyddi cyfredol.
Ar ôl cwblhau’n llwyddiannus, bydd dysgwyr cymwys hefyd yn derbyn pecyn cymorth proffesiynol i gefnogi eu gyrfa yn y dyfodol.
Gall cymorth gyda chostau teithio fod ar gael.
Mae dyddiad cychwyn y cwrs hwn i’w gadarnhau.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Amherthnasol
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y cwrs yn cwmpasu’r cymwysterau canlynol:
- Dyfarniad Lefel 2 City & Guilds mewn Ôl-osod
- Tystysgrif Lefel 1 mewn Sgiliau Adeiladu Fabric First
- Dyfarniad Lefel 1 mewn Iechyd a diogelwch mewn Amgylchedd Adeiladu
- Pympiau Solar Thermol a Gwres – Cyflwyniad i Systemau Adnewyddadwy
Yr unedau a gwmpesir fydd:
• Cyflwyniad i iechyd a diogelwch mewn adeiladu
• Cyflwyniad i’r diwydiant adeiladu
• Adeiladu wal hanner bricsen
• Tynnu ac ail-osod rheiddiaduron llawn dŵr
• Plygu a chymalu pibellau copr
• Adeiladu waliau ceudod mewn gwaith brics a bloc
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
- pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg
Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.
Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.
Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk
Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.
Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:
Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd
Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Arholiad ymarferol
- Arholiad ysgrifenedig
Beth alla i ei wneud nesaf?
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Nid oes angen unrhyw offer ychwanegol
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Duration: | 3 fis |
---|---|
Modd: | |
Lefel: |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf