Sgiliau Barista

Sgiliau Barista
Gwobr Ryngwladol City & Guilds mewn Sgiliau Barista (7102-50)
Os ydych chi’n gweithio lle mae coffi’n cael ei weini – mae hyn yn cynnwys bariau coffi, tai coffi, caffis, gwestai a bwytai. Mae’r cwrs byr hwn yn rhoi sgiliau a gwybodaeth arbenigol i ddysgwyr yn un o brif feysydd twf y diwydiant lletygarwch – y sector diodydd.
£900.00
Ymgeisiwch Nawr
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs undydd hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y rheini sy’n gweithio neu sydd eisiau gweithio fel baristas yn y sector lletygarwch.
- Mae mynediad i'r cwrs hwn yn amodol ar Adroddiad Atgyfeirio ar gyfer Asesiad (ARR) a fydd yn cael ei gwblhau gan y Coleg neu Gyrfa Cymru cyn dechrau'r cwrs
- Un TGAU gradd D neu uwch i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf neu Fathemateg/Rhifedd
- Rhaid i'r dysgwr fod dros 19 oed
Bydd dysgwyr yn cael eu cyflwyno i’r ystod lawn o gynhyrchion a ddefnyddir i wneud diodydd. Byddant yn dysgu o ble y daw’r cynhyrchion, a rhai o’r prosesau y maent yn mynd drwyddynt, o dyfu i’r ddiod derfynol. Byddant hefyd yn dysgu pwysigrwydd gofalu am y cynhyrchion er mwyn darparu canlyniad terfynol rhagorol.
Bydd dysgwyr hefyd yn edrych ar yr ystod lawn o offer, yn nodi agweddau diogelwch a sut i weithredu’r offer i ddarparu’r ansawdd a ddymunir. Bydd dysgwyr yn dod â’r wybodaeth a’r sgiliau a enillwyd ynghyd i gynhyrchu diodydd o ansawdd da yn gyson. Bydd dysgwyr yn gallu nodi a chywiro problemau wrth iddynt godi.
Mae’r cwrs yn ymdrin â phwysigrwydd cyflwyno delwedd bersonol gadarnhaol a defnyddio technegau cyfathrebu effeithiol.
Mae canlyniadau dysgwyr yn cynnwys:
- Arddangos gwybodaeth am gynnyrch
- Glanhau a gwirio offer
- Arddangos technegau adeiladu diodydd
- Gwasanaethu cwsmer
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Arholiad ysgrifenedig
[text-blocks id=”workbased-what-next”]
- Nid oes angen unrhyw offer ychwanegol
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid
- Dim costau ychwanegol
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: |