Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Technoleg Gwybodaeth

Technoleg Gwybodaeth

Technoleg Gwybodaeth

Diploma BTEC Lefel 1 mewn TG

Oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu eich sgiliau technoleg gwybodaeth trwy ddefnyddio dull mwy ymarferol? Ydych chi eisiau dysgu mwy am wefannau, rhaglenni cyfrifiadurol, graffeg ddigidol, cyfathrebu digidol a datrys problemau TG technegol?

SKU: 51583
MEYSYDD:
DYSGWYR:
ID: 51583

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Yn ystod y cwrs hwn byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau ymarferol mewn Technoleg Gwybodaeth, gan eich helpu i wella eich dysgu yn y dyfodol, boed hynny ar gyfer gyrfa TGCh neu symud ymlaen i ddewis o gymwysterau TG Lefel 2.

  • Un TGAU gradd D neu uwch i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf neu Fathemateg/Rhifedd
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
  • Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant

Bydd unedau yn cynnwys:

  • Creu Gwefan – byddwch yn archwilio gwahanol fathau o wefannau ar gyfer cynulleidfa a phwrpas penodol. Byddwch yn dysgu sut i ddylunio gwefan ar gyfer cynulleidfa a phwrpas a byddwch yn datblygu sgiliau i greu cynllun priodol. Byddwch yn defnyddio offer a thechnegau i ychwanegu ymarferoldeb, fel botymau llywio a thudalennau cysylltu, fel bod y wefan yn ddeniadol ac yn hawdd ei defnyddio. Unwaith y bydd wedi’i chwblhau byddwch yn adolygu’r wefan orffenedig ac yn gwneud argymhellion ar gyfer gwella.
  • Datrys Problemau TG Technegol – byddwch yn archwilio amrywiaeth o galedwedd a meddalwedd cyfrifiadurol allanol fel y gallwch ddatblygu a chymhwyso sgiliau ymarferol i ddatrys problemau TG. Byddwch yn archwilio gwahanol nodweddion caledwedd a meddalwedd allanol ac yn nodi sut y gellir eu defnyddio a’u haddasu i ddiwallu anghenion defnyddwyr. Byddwch yn dysgu sut i adnabod a thrwsio problem TG ar gyfer person arall a byddwch yn datblygu eich sgiliau cyfathrebu wrth ddelio â’r broblem.
  • Bod yn Drefnus – bydd yr uned hon yn eich helpu i ddatblygu technegau allweddol i’ch helpu i drefnu eich gwaith a’ch blaenoriaethau a rheoli eich amser yn effeithiol. Mae’r sgiliau a ddysgwch yn yr uned hon yn allweddol ar gyfer symud ymlaen i’r cam nesaf yn eich addysg. Maent hefyd yn hanfodol ar gyfer gwaith a bywyd.
  • Creu Rhaglen Gyfrifiadurol – mae dylunio gemau yn faes poblogaidd o fewn y diwydiant sy’n parhau i ddatblygu cysyniadau a thechnolegau newydd, gan ddenu cynulleidfa amrywiol lawer ehangach gyda gofynion lluosog ar gyfer llwyfannau lluosog. Nod yr uned yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio hanfodion dylunio gemau. Byddwch yn caffael y sgiliau i gynhyrchu gemau o ddyluniadau gêm ac yn archwilio sut i gyfoethogi’r gemau trwy ymgorffori nodweddion ychwanegol.
  • Datblygu Cynllun Cynnydd Personol – byddwch yn datblygu’r sgiliau a’r ymddygiadau sydd eu hangen i symud ymlaen i gam nesaf eich dysgu, gan nodi cyfleoedd dilyniant a chreu cynllun i’ch galluogi i gyrraedd yno.
    Creu Taenlen i Ddatrys Problemau – byddwch yn datblygu sgiliau i greu taenlen i’ch helpu i gyflawni gweithrediadau mathemategol fel adio, tynnu, lluosi, rhannu, cyfartaleddau a chyfansymiau. Mae meddalwedd taenlen hefyd yn eich galluogi i ddidoli data nad yw’n rhifol, gan gael y canlyniadau yr ydych yn chwilio amdanynt yn gyflym. Mae rhaglenni taenlen yn caniatáu i chi newid ymddangosiad eich gwybodaeth yn hawdd, gan gynnwys gosodiadau.
  • Datblygu Cynnyrch Digidol – byddwch yn dysgu sut i gynllunio a dylunio cynnyrch cyfryngau digidol gan ddefnyddio offer gweledol fel byrddau stori. Byddwch hefyd yn dysgu sut i recordio clipiau sain a fideo a’u golygu gan ddefnyddio meddalwedd golygu sain a fideo. Yna byddwch yn cyfuno’r clipiau hyn wedi’u golygu ag asedau parod (fel ffotograffau digidol) i greu cynnyrch amlgyfrwng cyflawn.
  • Creu Graffeg Animeiddiedig Digidol – byddwch yn archwilio’r defnydd o graffeg ddigidol ac animeiddio a’r nodweddion a ddefnyddir i greu cynnwys digidol effeithiol a phriodol. Byddwch yn datblygu sgiliau defnyddio offer meddalwedd graffeg ac animeiddio i ddod o hyd i, golygu a chreu graffeg animeiddiedig digidol at ddiben penodol.
  • Gweithio gydag Eraill – bydd yr uned hon yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm a datrys problemau a fydd yn eich galluogi i weithio’n effeithiol gyda phobl eraill ar weithgaredd penodol.
  • Ymchwilio i Bwnc – cewch gyfle i ymchwilio i bwnc sydd o ddiddordeb i chi. Gallai fod yn gysylltiedig â rhywbeth yr ydych wedi’i fwynhau yn eich sector, rhywbeth sy’n digwydd yn eich cymuned leol neu efallai’n gysylltiedig â’r hyn yr hoffech ei wneud yn y dyfodol.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
  • pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith

Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs

Mae dilyniant yn bosibl i ddewis o ddau gwrs Lefel 2 mewn disgyblaeth gysylltiedig, fel  Technoleg Gwybodaeth a Chreadigol neu Gyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol.

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Cofbin/gyriant caled USB bach cludadwy
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Dim ffi dysgu
  • Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/24
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Gwybodaeth Ychwanegol

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Additional information

Lefel:

Modd:

Elfennau Dysgu Ar-lein?

Oes

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 04/07/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close