Therapi Harddwch

Therapi Harddwch
Diploma VTCT Lefel 1 mewn Therapi Harddwch
Yn ystod y cwrs hwn byddwch yn datblygu sgiliau steilio gwallt dynion a merched, lliwio a thrin gwallt, yn ogystal â dysgu sgiliau ar gyfer y diwydiant harddwch ehangach fel celf ewinedd, gofal dwylo a chyflwyno delwedd broffesiynol yn y salon.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Yn gyflwyniad i Harddwch, mae’r cwrs hwn yn gyfuniad o theori a sgiliau ymarferol – o wasanaeth cwsmer i driniaethau harddwch sylfaenol. Bydd yr holl sgiliau a ddatblygir yn darparu’r hanfodion ar gyfer gweithio yn y sector harddwch ac mae llawer o’r sgiliau’n drosglwyddadwy i sectorau eraill fel trin gwallt neu fanwerthu. Trwy gydol y cwrs byddwch yn cael eich annog i ddatblygu eich dychymyg a chreadigrwydd i ddechrau creu edrychiadau unigryw.
Bydd angen sgiliau rhyngbersonol da, sgiliau cyflwyno personol a chyfathrebu da arnoch.
Cynhelir y cwrs mewn ystafelloedd dosbarth a’r Salonau yn y Coleg sy’n ail-greu amgylchedd gweithle.
Canllaw i Gyrsiau Harddwch
- Dau TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf
- Mae angen sgiliau cyfathrebu a chyflwyniad personol da
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
- Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
Byddwch yn astudio ac yn datblygu sgiliau harddwch a gwybodaeth mewn peintio ewinedd, colur a gofal croen.
Mae unedau yn cynnwys:
- Trin dwylo/trin traed a chelf ewinedd
- Coluro, colur ffotograffig a phaentio wynebau â thema
- Gofal Croen
- Creu delwedd gwallt a harddwch
- Derbynfa salon a gweithio gydag eraill
Mae’r cwrs hefyd yn ymgorffori sgiliau sylfaenol mewn cyfathrebu, gwaith tîm, iechyd a diogelwch yn y gweithle, cysylltiadau cleientiaid, ymwybyddiaeth busnes a gwasanaeth cwsmer i’ch paratoi ar gyfer y lefel nesaf, boed hynny’n mynd i mewn i’r gweithle neu’n symud ymlaen i Lefel 2.
Mae’r Coleg a’r tîm addysgu yn darparu amgylchedd cefnogol i helpu i ddatblygu eich hyder personol yn ogystal â hyrwyddo byw’n iach ac ymwybyddiaeth amgylcheddol.
Bydd ffocws ar lythrennedd a rhifedd ynghyd â datblygu eich gwybodaeth am faterion cynaliadwy, dinasyddiaeth, dwyieithrwydd, menter a diwylliant Cymru.
Bydd gofyn i chi fynychu tiwtorialau wythnosol a chwblhau profiad gwaith fel rhan o’r rhaglen hon. Disgwylir i chi gyflwyno delwedd broffesiynol bob amser, yn y wisg angenrheidiol a dilyn mesurau iechyd a diogelwch tra yn amgylchedd y salon.
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg
Gradd C neu uwch yn y ddau
Gradd D
Gradd E neu F
Gradd G neu is
Gradd C neu uwch yn y ddau
Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) mewn uwchsgilio / Gwersi mewn Addysg Ariannol
Gradd D
Cwrs ailsefyll TGAU blwyddyn yn y pwnc/pynciau gofynnol
Gradd E neu F
Cwrs uwchsgilio am flwyddyn neu ddwy cyn TGAU
Gradd G neu is
Cwrs uwchsgilio TGAU START am flwyddyn
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Arholiad ymarferol
Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus arwain at Therapi Harddwch Lefel 2 ac mae gyrfaoedd yn y dyfodol yn cynnwys cynorthwyydd therapi/sba neu dderbynnydd salon/sba.
[text-blocks id=”default-progression-text”]
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- Pecyn Therapi Harddwch - mae hwn yn cynnwys y pethau sylfaenol y bydd eu hangen arnoch yn ystod y cwrs ac i'r dyfodol - £108
- Pecyn colur a brwshys - £165
- Colur ychwanegol - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol yn ystod neu cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Pecyn triniaethau’r wyneb - £42
- Gwisg Therapi Harddwch - £40/£56
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
- Dim ffi dysgu
- Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/24
- Mae ffi gweithdy blynyddol ar gyfer y cwrs hwn (£20 - £60) yn daladwy cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth Ychwanegol
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Additional information
Lefel: | |
---|---|
Modd: | |
Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 01/06/2022