Therapi Harddwch
Therapi Harddwch
Diploma City & Guilds Lefel 2 mewn Therapi Harddwch
Mae’r diwydiant harddwch yn cynnig llawer o gyfleoedd i unigolion sydd â diddordeb mewn gwneud i bobl eraill edrych a theimlo’n dda.
Mae’r ffioedd fesul blwyddyn academaidd, yn amodol ar newid
£850.00
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs dwys blwyddyn hwn yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr aeddfed sydd eisiau hyblygrwydd cwrs rhan-amser sy’n gweithio ar hyn o bryd neu’n bwriadu gweithio mewn salon therapi harddwch. Mae hefyd yn addas ar gyfer prentisiaid therapi harddwch.
Mae’r cwrs hwn fel arfer yn rhedeg un diwrnod yr wythnos, am 34 wythnos, gan ddechrau ym mis Medi.
- Os o dan 19, Lefel 1 perthnasol neu ddau TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf
- Mae angen sgiliau cyfathrebu a chyflwyniad personol da
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
Mae’r cwrs yn gyfuniad o sesiynau salon ac ystafell ddosbarth wedi’u hamserlennu. Mae’n hynod ymarferol gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau trwy hyfforddiant ac asesu parhaus ynghyd â gwaith aseiniad gartref.
Ymdrinnir â’r unedau canlynol:
- Iechyd a diogelwch
- Hyrwyddo gwasanaethau a chynnyrch
- Gweithio mewn diwydiannau sy’n ymwneud â harddwch
- Gofal cleientiaid a chyfathrebu
- Gofal croen yr wyneb
- Technegau cwyro
- Dwylo
- Traed
- Gofal llygaid
- Anatomeg a ffisioleg
- Creu delwedd yn seiliedig ar thema
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
- Arholiad ymarferol
- Os cewch eich derbyn ar gyfer prentisiaeth yna cynhelir adolygiadau gyda’ch aseswr a’ch cyflogwr bob 1-2 fis a disgwylir i chi fod wedi datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth rhwng pob adolygiad
Yn addas ar gyfer y rhai sy’n gobeithio gweithio mewn hydro’s iechyd, salonau therapi harddwch, llongau mordaith, busnes symudol i gartrefi, clybiau iechyd a ffitrwydd, gwaith teledu a theatr a gwerthu cosmetig.
Efallai yr hoffech ystyried un arall o’n cyrsiau rhan-amser.
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- Pecyn Therapi Harddwch - mae hwn yn cynnwys y pethau sylfaenol y bydd eu hangen arnoch yn ystod y cwrs ac i'r dyfodol - £137
- Pecyn colur a brwshys - £167
- Pecyn triniaethau’r wyneb - £57
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
- Dim costau ychwanegol
- Mae ffioedd gostyngedig dan 19 yn berthnasol - cysylltwch â admissions@pembrokeshire.ac.uk

Beth yw'r gofynion mynediad?
- Os o dan 19, Lefel 1 perthnasol neu ddau TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf
- Mae angen sgiliau cyfathrebu a chyflwyniad personol da
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae’r cwrs yn gyfuniad o sesiynau salon ac ystafell ddosbarth wedi’u hamserlennu. Mae’n hynod ymarferol gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau trwy hyfforddiant ac asesu parhaus ynghyd â gwaith aseiniad gartref.
Ymdrinnir â’r unedau canlynol:
- Iechyd a diogelwch
- Hyrwyddo gwasanaethau a chynnyrch
- Gweithio mewn diwydiannau sy’n ymwneud â harddwch
- Gofal cleientiaid a chyfathrebu
- Gofal croen yr wyneb
- Technegau cwyro
- Dwylo
- Traed
- Gofal llygaid
- Anatomeg a ffisioleg
- Creu delwedd yn seiliedig ar thema
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
- Arholiad ymarferol
- Os cewch eich derbyn ar gyfer prentisiaeth yna cynhelir adolygiadau gyda’ch aseswr a’ch cyflogwr bob 1-2 fis a disgwylir i chi fod wedi datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth rhwng pob adolygiad
Beth alla i ei wneud nesaf?
Yn addas ar gyfer y rhai sy’n gobeithio gweithio mewn hydro’s iechyd, salonau therapi harddwch, llongau mordaith, busnes symudol i gartrefi, clybiau iechyd a ffitrwydd, gwaith teledu a theatr a gwerthu cosmetig.
Efallai yr hoffech ystyried un arall o’n cyrsiau rhan-amser.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- Pecyn Therapi Harddwch - mae hwn yn cynnwys y pethau sylfaenol y bydd eu hangen arnoch yn ystod y cwrs ac i'r dyfodol - £137
- Pecyn colur a brwshys - £167
- Pecyn triniaethau’r wyneb - £57
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim costau ychwanegol
- Mae ffioedd gostyngedig dan 19 yn berthnasol - cysylltwch â admissions@pembrokeshire.ac.uk
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: | |
Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 02/10/2024