Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Mynediad i Wyddoniaeth Feddygol AU

Mynediad i Wyddoniaeth Feddygol AU

Mynediad i Addysg Uwch Biowyddorau

Mynediad i Wyddoniaeth Feddygol AU

Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Biowyddorau)

Mae cwrs Mynediad yn gyfle dysgu dwys, wedi’i anelu at oedolion sy’n dymuno astudio yn y brifysgol ond nad oes ganddyn nhw o reidrwydd y cymwysterau i wneud cais.

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sydd efallai heb unrhyw gymwysterau diweddar sy’n eu galluogi i gael mynediad i gwrs lefel gradd. Bydd y dysgwr yn cael trosolwg cadarn o’r corff dynol a llygredd amgylcheddol.

Mae hwn yn gwrs dwys sy’n gofyn am lefel uchel o ymroddiad ac yn ddelfrydol presenoldeb 100%. Bydd gofyn i chi astudio y tu allan i oriau arferol y coleg er mwyn cwblhau aseiniadau a darllen cefndirol. Rhaid i ymgeiswyr fod yn sicr eu bod yn barod ar gyfer gofynion academaidd a llwyth gwaith y rhaglen er mwyn cyflawni’r Diploma i safon sy’n ofynnol ar gyfer mynediad i brifysgol.

Sylwch efallai y bydd gofyn i chi gwblhau rhaglen cyflwyniad i astudio ar-lein yn ystod yr Haf. Darperir rhagor o wybodaeth yn eich sesiwn wybodaeth.

Mae’r cwrs yn rhedeg fel arfer dros 3 diwrnod bob wythnos.

  • Three GCSEs at grade C or above to include English Language/First Language Welsh and Mathematics/Numeracy and Science
  • Life skills, experience and maturity are important
  • Successful completion of online summer programme
  • Each application is considered on individual merit
  • Entry is subject to attending a course information session or informal interview
  • Successful completion of Skills for Further Study, GCSE English Language/First Language Welsh and Mathematics/Numeracy (and Science for Biosciences) at grade C or above in addition to successful decision from progression board meeting
  • Successful completion of online summer programme

Mae’r cwrs hwn yn gwrs modiwlaidd dwys.

Mae modiwlau yn cynnwys:

  • Bioleg
  • Cemeg
  • Anatomeg a ffisioleg
  • Lefel 3 mathemateg
  • Gwyddor amgylcheddol
  • Cyfathrebu

O fewn y modiwlau hyn mae unedau unigol yn cynnwys:

  • Cynllunio a Rheoli Amser
  • Sgiliau Academaidd
  • Mynediad i addysg uwch – prosiect ymchwiliol/traethawd estynedig
  • Mathemateg graidd – algebra a graffiau
  • Mathemateg graidd – cymhwyso mathemateg
  • Mathemateg – ystadegau
  • Defnyddio graffiau
  • Ensymau
  • Detholiad naturiol
  • Gweithdrefnau dadansoddol mewn cemeg
  • Strwythur atomig
  • Cemeg amgylcheddol
  • Cemeg celloedd byw
  • Microbioleg ac iechyd
  • Strwythur celloedd a chludiant
  • System gardiofasgwlaidd
  • Y system ysgerbydol ddynol

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
  • pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith

Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Continuous assessment during the course
  • Practical assessment during the course

Bydd y cwrs yn darparu llwybr mynediad ar gyfer cyrsiau Prifysgol mewn dieteteg, ffisiotherapi, radiograffeg, graddau seiliedig ar wyddoniaeth gan gynnwys gofal anifeiliaid, gwyddor yr amgylchedd, gwyddor bwyd, gwyddor fforensig a chyrsiau gwyddonol eraill. Hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer gyrfaoedd mewn addysgu gwyddoniaeth, cyfrifiadureg a nyrsio.

Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.

  • Stationery - you will be told about any specific items before you start the course
  • Text books - you will be told about any specific items before you start the course, most text books are available to loan from the college library or online libraries
  • A memory stick/a small portable USB hard drive
  • A scientific calculator
  • You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • No tuition fee
  • We are waiving the Administration Fee for the academic year 2024/25
  • You will need to pay a £30 access workshop fee each year before you start the course
  • You can rent a locker for £10 per year this will be refunded if the locker remains undamaged and keys are returned
  • You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

Elfennau Dysgu Ar-lein?

Oes

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 02/04/2024
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close