Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Trin Gwallt a Harddwch

Sgiliau VTCT Diploma Lefel 1 Cyflwyniad i'r Sector Gwallt a Harddwch

Mode: Llawn-amser
Level: Lefel 1 - Cyflwyniad

ID y Cwrs: 32367

Camwch i fyd gwallt a harddwch a chychwyn gyrfa gyffrous gyda’r Diploma hwn mewn Gwallt a Harddwch.

Lady with curly hair, eyes closed with makeup

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Yn fan cychwyn perffaith i ddysgwyr sy’n dymuno gweithio fel steilwyr gwallt proffesiynol neu therapyddion harddwch, bydd y cwrs rhagarweiniol hwn yn helpu i feistroli sgiliau hanfodol a chreu’r hyder i ddisgleirio yn y diwydiant hwn.

Gan weithio yn ein salon masnachol, dysgwch ystod eang o driniaethau o safon diwydiant a gwella sgiliau ymarferol megis colur sylfaenol, triniaethau trin dwylo, lliw gwallt dros dro a sut i greu delwedd gwallt a harddwch.

  • Dau TGAU gradd E neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf neu Fathemateg/Rhifedd
  • Mae angen sgiliau cyfathrebu a chyflwyniad personol da
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu cyfarfod cwrs neu gyfweliad anffurfiol

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant

Bydd unedau yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i’r sector gwallt a harddwch
  • Cyflwyno delwedd broffesiynol yn y salon
  • Colur sylfaenol
  • Creu delwedd gwallt a harddwch
  • Darparu triniaeth dwylo sylfaenol
  • Darparu triniaeth traed sylfaenol
  • Lliwio gwallt gan ddefnyddio lliw dros dro
  • Dilyn iechyd a diogelwch yn y salon
  • Gweithio gydag eraill yn y sector gwallt a harddwch
  • Y grefft o drin gwallt

Bydd dysgwyr hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau mewnol ac allanol a bydd disgwyl iddynt wella sgiliau siarad Cymraeg ar gyfer y gweithle.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
  • pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg

Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.

Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:

Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd

Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.

Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Arholiad ar-lein

Mae gyrfaoedd y dyfodol yn cynnwys triniwr gwallt/steilydd cymwys gyda’r nod o symud i rôl fwy technegol neu oruchwyliol o fewn y diwydiant neu symud ymlaen i Lefel 2 Trin Gwallt ond Lefel 2 Therapi Harddwch.

  • Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
  • Offer a Gwisg Trin Gwallt - mae hwn yn cynnwys y pethau sylfaenol y bydd eu hangen arnoch yn ystod y cwrs ac i'r dyfodol - £250
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Dim ffi dysgu
  • Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy trin gwallt o £25 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau cwrs Lefel 1
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Llyfrynnau Diweddaraf:

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 19/03/2025
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close