Trin gwallt
Trin gwallt
City & Guilds Accelerated Level 1/2 Diploma in Hairdressing
Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer diwydiant ac mae wedi’i anelu at ddysgwyr sy’n gobeithio dod yn steilwyr cymwys. Yn ystod y cwrs byddwch yn dysgu sut i dorri, pyrmio a lliwio gwallt. Byddwch hefyd yn ymgymryd â dyletswyddau derbynfa salon, yn dysgu sut i roi ymgynghoriadau â chleientiaid a sut i hyrwyddo gwasanaethau a chynhyrchion salon.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cymhwyster hwn yn eich paratoi ar gyfer diwydiant ac yn addas ar gyfer y rhai sy’n gobeithio gweithio fel steilydd.
Mae’r cwrs ymarferol hwn yn rhoi cipolwg i chi ar y diwydiant. Yn ystod y flwyddyn byddwch yn astudio pob agwedd ar drin gwallt ac yn adeiladu eich gwybodaeth a’ch sgiliau technegol er mwyn dod yn steilydd gwallt proffesiynol.
Bydd y cwrs hwn hefyd yn cynnwys sesiynau masnachol gyda’r nos y bydd disgwyl i chi eu mynychu er mwyn cael profiad masnachol. Felly, bydd gofyn i chi wneud eich trefniadau cludiant eich hun.
Sylwch nad yw dysgwyr yn cael gwisgo tlwsdyllau’r wyneb ar y cwrs hwn.
Cymhwysedd (Lefel 2)
Mae’r cwrs hwn ar gael i ddysgwyr sydd â’r gofynion mynediad ar gyfer rhaglen Lefel 1 ond sy’n dangos y gallu i weithio ar safon Lefel 2. Bydd angen cwblhau asesiad ymarferol yn llwyddiannus yn y 6 wythnos gyntaf er mwyn asesu gallu i fodloni gofynion sgiliau’r rhaglen garlam. Mewn achosion lle na chaiff yr asesiad hwn ei basio, bydd dysgwyr yn cwblhau rhaglen Lefel 1.
- Dau TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf
- Mae angen sgiliau cyfathrebu a chyflwyniad personol da
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
- Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
Ymhlith yr unedau y byddwch yn eu hastudio mae:
• Rhoi cyngor ac ymgynghori â chleientiaid
• Siampŵ, cyflyru a thrin y gwallt a chroen y pen
• Datblygu a chynnal eich effeithiolrwydd yn y gwaith
• Steilio a gorffen y gwallt
• Gosod a gwisgo’r gwallt
• Torri gwallt gan ddefnyddio technegau sylfaenol
• Lliwio ac ysgafnhau gwallt
• Torri gwallt dynion gan ddefnyddio technegau sylfaenol
• Pyrmio a niwtraleiddio gwallt
Bydd gofyn i chi hefyd wella eich sgiliau siarad Cymraeg ar gyfer y gweithle.
Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau mewnol ac allanol.
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg
Gradd C neu uwch yn y ddau
Gradd D
Gradd E neu F
Gradd G neu is
Gradd C neu uwch yn y ddau
Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) mewn uwchsgilio / Gwersi mewn Addysg Ariannol
Gradd D
Cwrs ailsefyll TGAU blwyddyn yn y pwnc/pynciau gofynnol
Gradd E neu F
Cwrs uwchsgilio am flwyddyn neu ddwy cyn TGAU
Gradd G neu is
Cwrs uwchsgilio TGAU START am flwyddyn
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
- Arholiad ar-lein
Mae gyrfaoedd y dyfodol yn cynnwys triniwr gwallt/steilydd cymwys gyda’r nod o symud i rôl fwy technegol neu oruchwyliol o fewn y diwydiant neu symud ymlaen i Lefel 3 Trin Gwallt (os byddwch yn cwblhau rhaglen Lefel 2).
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- Bydd angen i chi ddod â'ch dyfais/gliniadur eich hun ar gyfer y cwrs hwn, cliciwch yma i ddarganfod mwy
- Cit trin gwallt - mae hwn yn cynnwys y pethau sylfaenol y bydd eu hangen arnoch yn ystod y cwrs ac i'r dyfodol - £399
- Gwisg trin gwallt - £32/£58
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
- Dim ffi dysgu
- Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
- Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy trin gwallt o £55 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau cwrs Lefel 2
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: | |
Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 21/05/2024