Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Rheolaeth Amgylcheddol (NEBOSH) – Ystafell Ddosbarth Rithwir

Rheolaeth Amgylcheddol (NEBOSH) – Ystafell Ddosbarth Rithwir

Man on building Site Observing

Rheolaeth Amgylcheddol (NEBOSH) – Ystafell Ddosbarth Rithwir

Tystysgrif Rheolaeth Amgylcheddol NEBOSH

Mae Tystysgrif Rheolaeth Amgylcheddol NEBOSH yn cael ei chydnabod yn fyd-eang ac yn gymhwyster blaenllaw ar reoli risg amgylcheddol.

Mae’n ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd am ddatblygu gyrfa yn yr amgylchedd a chynaliadwyedd a rhoi systemau rheoli amgylcheddol effeithiol ar waith yn eu sefydliad.

£1,170.00

Out of stock

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae cymhwyster Tystysgrif NEBOSH mewn Rheolaeth Amgylcheddol wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sy’n gyfrifol am reoli materion amgylcheddol fel rhan o’u gwaith, yn ogystal â’r rhai sydd am ddatblygu gyrfa o fewn yr amgylchedd a chynaliadwyedd.

Mae’n addas ar gyfer rheolwyr, goruchwylwyr a gweithwyr sy’n gweithio ar draws sectorau diwydiant sy’n ceisio rhoi systemau rheoli amgylcheddol effeithiol ar waith yn eu sefydliad.

Addysgir y cwrs hwn trwy ystafell ddosbarth rithwir.

Er nad oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cymhwyster hwn, mae’n bwysig bod gennych safon addas o Saesneg i ddeall a chyfleu’r cysyniadau sydd yn y maes llafur. Mae NEBOSH yn argymell y dylai dysgwyr sy’n dilyn y cymhwyster hwn gyrraedd safon ofynnol o Saesneg sy’n cyfateb i sgôr System Profi Iaith Saesneg Ryngwladol (IELTS) o 6.0 neu uwch mewn profion IELTS.

  • Dim gofynion mynediad ffurfiol
  • Mae angen sgiliau cyfathrebu a chyflwyniad personol da
  • Dylai fod gennych rai sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol gan gynnwys gallu cadw a lleoli ffeiliau a chael mynediad i wefannau

Wedi’u haddysgu drwy ystafell ddosbarth rithwir, mae’r unedau’n cynnwys:

  • EMC1: Rheolaeth Amgylcheddol
  • EMC2: Asesu agweddau amgylcheddol ac effeithiau cysylltiedig

Byddwch yn gallu:

  • Cyfiawnhau rheolaeth amgylcheddol yn y gweithle gan ddefnyddio dadleuon moesegol, cyfreithiol ac ariannol, gan gysylltu’r rhain â materion amgylcheddol ehangach gan gynnwys datblygu cynaliadwy
  • Cydnabod gweithgareddau yn y gweithle a allai fod yn destun deddfwriaeth amgylcheddol neu orfodi
  • Deall gofynion, a gweithio o fewn, system rheoli amgylcheddol, tra’n cyfrannu at welliant parhaus
  • Asesu agweddau amgylcheddol ac effeithiau cysylltiedig, pennu agweddau arwyddocaol a gwerthuso rheolaethau cyfredol
  • Cefnogi cynllunio argyfwng amgylcheddol
  • Deall pwysigrwydd lleihau niwed amgylcheddol; nodi ffynonellau llygredd sŵn, aer a dŵr; ac awgrymu mesurau rheoli addas
  • Deall y materion sy’n gysylltiedig â gwastraff a chefnogi rheoli gwastraff yn gyfrifol.
  • Deall manteision a chyfyngiadau ystod o ffynonellau ynni ac awgrymu mesurau addas i gynyddu effeithlonrwydd ynni.

Asesiadau:

Mae arholiad llyfr agored EMC1 yn cael ei gwblhau’n electronig a’i gyflwyno trwy borth arholiadau NEBOSH. Mae gennych 24 awr o 11yb (amser y DU) ar ddiwrnod yr arholiad i gwblhau a chyflwyno eich papur arholiad. Bydd hyn yn cymryd tua 5 awr i’w gwblhau. Bydd gofyn i chi adolygu senario bywyd go iawn ac ateb cwestiynau damcaniaethol ac ymarferol ynghylch rheolaeth amgylcheddol.

Mae EMC2 yn asesiad ymarferol, lle gall dysgwyr asesu agweddau ac effeithiau amgylcheddol ar eu dewis weithle. Gellir cwblhau hwn mewn man gwaith neu gartref a chaiff ei gyflwyno trwy e-bost yn unol â’r dyddiad cau. Bydd hyn yn cymryd tua 3 awr i’w gwblhau.

Rhaid i chi basio’r ddwy uned yn llwyddiannus i ennill eich Tystysgrif Rheolaeth Amgylcheddol NEBOSH lawn.

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Arholiad ymarferol
  • Arholiad ysgrifenedig
  • Cofbin/gyriant caled USB bach cludadwy

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

  • Dim costau ychwanegol

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Additional information

Lefel:

Modd:

,

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 27/02/2024
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close