Ymwybyddiaeth a Rheoli Alergenau Bwyd
Ymwybyddiaeth a Rheoli Alergenau Bwyd
HABC Dyfarniad Lefel 2 mewn Ymwybyddiaeth a Rheoli Alergenau Bwyd mewn Arlwyo
Mae’r cwrs wedi’i anelu at drinwyr bwyd a staff eraill sy’n ymwneud â pharatoi a gweini bwyd sy’n gweithio yn y diwydiant arlwyo.
£45.00
Out of stock
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae angen i bawb sy’n paratoi neu’n gwerthu bwyd mewn unrhyw fath o fusnes bwyd:
- fod yn gwbl ymwybodol o’r bwydydd a all ysgogi adwaith alergaidd
- gwybod pa ragofalon y mae angen eu cymryd er mwyn sicrhau nad yw cwsmeriaid yn bwyta bwyd y maent yn ceisio ei osgoi
Mae’r cwrs hanner diwrnod hwn wedi’i gynllunio i ddarparu gwybodaeth a dealltwriaeth o alergenau bwyd a bwydydd sy’n achosi anoddefiadau yn aml, eu nodweddion a’u heffeithiau, pwysigrwydd cyfathrebu gwybodaeth am gynhwysion alergenaidd yn effeithiol i gwsmeriaid, a sut y gall staff leihau’r risg o groeshalogi o gynhwysion alergenaidd.
- No formal entry requirements
Mae’r canlyniadau dysgu yn cynnwys:
- Deall Nodweddion a Chanlyniadau Alergeddau ac Anoddefiadau Bwyd
- Deall Gweithdrefnau ar gyfer Adnabod a Rheoli Halogiad o Gynhwysion Alergenaidd
- Deall Gweithdrefnau ar gyfer Cyfathrebu Gwybodaeth Alergenau’n Gywir i Ddefnyddwyr
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Continuous assessment during the course
Efallai y bydd unigolion sy’n cyflawni’r cymhwyster hwn am ystyried Lefelau 2 neu 3 mewn Diogelwch Bwyd.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn efallai y byddwch am roi cynnig ar un arall o’n cyrsiau seiliedig ar waith.
- No additional equipment required
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
- No additional costs
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 18/09/2023