Mae datblygiadau cyffrous ar y gweill ar gyfer Cynghrair SPARC, wrth i’r fenter dderbyn cyllid ychwanegol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, y Gronfa Sgiliau a Thalent.
Mae’r gefnogaeth hollbwysig hon yn gam sylweddol ymlaen wrth ddatblygu rhaglen yrfaoedd SPARC, sydd wedi’i dylunio i gynnwys merched yn weithredol mewn sectorau a dangynrychiolir yn draddodiadol, gyda ffocws penodol ar ynni ac adeiladu.
“Mae’r prosiect hwn yn bartneriaeth gref rhwng busnes ac Addysg Bellach a fydd yn datblygu gweithlu’r dyfodol drwy greu ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar y gorwel yn Sir Benfro a rhanbarth De Orllewin Cymru. Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar annog merched i ystyried gyrfaoedd yn y sectorau ynni ac adeiladu a gobeithiwn weld llawer mwy o fenywod yn manteisio ar y cyfleoedd a fydd yn cael eu creu ar draws y rhanbarth”, meddai Jane Lewis, Rheolwr Partneriaeth Rhanbarthol.
Gan gydnabod bod potensial talent benywaidd heb ei gyffwrdd yn flaenoriaeth ar agenda sgiliau’r diwydiant, mae gan y fenter hon y potensial i gael effaith sylweddol ar farchnad lafur Sir Benfro, yn enwedig gyda thwf cyflym y sector ynni gwyrdd.
Mewn ymdrech gydweithredol, mae arweinwyr diwydiant fel RWE Renewables, Blue Gem Wind, Floventis, Ledwood Engineering, a Phorth Aberdaugleddau wedi partneru â sefydliadau addysgol fel Coleg Sir Benfro ac ysgolion uwchradd lleol. Gyda’i gilydd, eu nod yw cynyddu amlygrwydd menywod yn y diwydiannau hyn. “Mae SPARC yn cyflwyno cyfle gwirioneddol drawsnewidiol i’n dysgwyr benywaidd ifanc i ennyn chwilfrydedd, codi dyheadau a hyrwyddo cyfranogiad wrth ymgysylltu â chymwysterau penodol SPARC, llwybrau ôl-16 a chyflogaeth”, meddai Rob Hillier, Cyngor Sir Penfro.
Mae Cynghrair SPARC, gan weithio ar y cyd â byrddau sgiliau, ar fin cychwyn ar ddatblygiad fframwaith ymgysylltu cynhwysfawr yn y flwyddyn i ddod. Y nod yw cyflwyno’r fframwaith hwn ar draws Sir Benfro ym mis Medi 2024.
Bydd y cyllid grant a sicrhawyd gan y prosiect Sgiliau a Thalent yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi swyddi Ymarferwyr SPARC mewn ysgolion. Bydd y rolau penodedig hyn yn sicrhau bod y fframwaith ymgysylltu yn cael ei gyflwyno’n llwyddiannus dros y rhaglen beilot dwy flynedd. Bydd dysgwyr benywaidd yn elwa o ystod o gyfleoedd, gan gynnwys sesiynau siaradwr gwadd, rhaglenni mentora ar gyfer dilyniant gyrfa, datblygu chwilfrydedd, magu hyder, gwella sgiliau datrys problemau a hyrwyddo gwaith tîm.
Mae’n werth nodi bod y gynghrair wedi ehangu ei rhwydwaith trwy gynnwys ERM, cwmni cynghori mwyaf y byd sy’n canolbwyntio’n gyfan gwbl ar gynaliadwyedd, a Morgan Sindall Construction, gan ddod â’u harbenigedd amhrisiadwy mewn adeiladu a’r amgylchedd adeiledig i’r fenter. Mae Cynghrair SPARC yn barod ar gyfer twf a llwyddiant parhaus, diolch i’r partneriaethau strategol hyn ac ymdrechion ymroddedig i bweru cynnydd ar gyfer menywod yn y diwydiannau hollbwysig hyn.