Ymwelodd grŵp o fyfyrwyr Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol, Dylunio Graffig a Dylunio Tecstilau Cynaliadwy Coleg Sir Benfro ag Abertawe yn ddiweddar fel rhan o’u rhaglen ‘Cyrchfan – Destination’.
Ymwelodd y dysgwyr creadigol â Choleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i archwilio’r ystod o gyrsiau gradd creadigol sydd ar gael, gweld y cyfleusterau a chael profiad ymarferol o gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol i’w helpu i benderfynu ar eu dyheadau gyrfa ar gyfer y dyfodol.
Rhoddodd staff o’r adrannau Dylunio Patrymau Arwyneb, Dylunio Graffig, Ffotograffiaeth a Chelfyddyd Gain daith o amgylch y cyfleusterau a’r gweithleoedd i ddysgwyr a fynegodd ddiddordeb yn eu maes ynghyd â sgwrs am eu cyrsiau. Cynigiwyd gweithgaredd gwnïo hefyd i’r rhai â diddordeb mewn Dylunio Patrymau Arwyneb gan ddefnyddio siapiau wedi’u torri â laser a siapiau UV wedi’u hargraffu.
Yn ogystal â chanolbwyntio ar ddatblygu eu haddysg, cafodd dysgwyr y Coleg hefyd y cyfle i gael eu hysbrydoli gan waith y diwydiant creadigol yn Oriel Glynn Vivian lle gwnaethon nhw weld arddangosfa o bropiau, gwisgoedd a chelf cysyniad o gyfres gyfredol y BBC ‘His Dark Materials.’ Mae’r gyfres hon yn cael ei ffilmio a’i chynhyrchu yng Nghymru gan Bad Wolf Studios, mewn lleoedd fel Caerdydd a Bannau Brycheiniog.
Dywedodd Denys Bassett-Jones, darlithydd Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol: “Roedd yn daith hynod ddiddorol a helpodd y dysgwyr i ddarganfod y cyfleoedd i symud ymlaen o’u cyrsiau presennol. Roedd bwrlwm o gyffro ar y bws adref yn sicr!”