Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

O’r Labordy i Lundain

A-level Biology Science Live

Mynychodd myfyrwyr Bioleg Lefel-A Coleg Sir Benfro gynhadledd ddiddorol o’r enw ‘Science Live’ yn Llundain yn ddiweddar.

Cafodd y myfyrwyr sgyrsiau gan: Yr Athro Alice Roberts ar ‘Dofi’, ein perthynas esblygol ag anifeiliaid; Dr Adam Rutherford ar ein hachau genetig, coed y teulu brenhinol a mwtaniadau genetig, ac esboniwyd sut y cafodd olion y Brenin Richard III eu hadnabod; a’r Athro Sarah-Jayne Blakemore ar weithrediad a photensial Ymennydd yr Arddegau.

Cafwyd hefyd sesiynau holi ac ateb hynod ddiddorol gyda ffigwr arloesol ym maes triniaeth IVF, yr Athro Winston ar Olygu Genynnau mewn Bodau Dynol, a’r Athro Jonathon Van Tam ar ei gyfnod fel Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Llywodraeth y DU yn ystod y pandemig COVID-19.

Dywedodd y darlithydd Bioleg, Kate Bassett-Jones: “Roedd y gynhadledd yn brofiad gwych i’r myfyrwyr; roedd ganddyn nhw fynediad uniongyrchol at wyddonwyr o’r radd flaenaf a daethant i ffwrdd wedi’u hysbrydoli a’u hysgogi am eu cynlluniau gyrfa yn y dyfodol. Mae Llundain bob amser yn brofiad llawn hwyl, ac roedd yn wych gwylio rhai ohonyn nhw’n ei brofi am y tro cyntaf.”

Mwynhaodd y myfyrwyr gydbwysedd o ymgysylltiad academaidd a bondio gyda’r tîm a oedd yn cynnwys taith gerdded fer o gwmpas rhai o dirnodau Llundain a noson o adloniant o swper yn Covent Garden a’r sioe Lion King yn Theatr y Lyceum i ddilyn.

Mae’r adran Bioleg Lefel-A yn edrych ymlaen at drefnu mwy o deithiau dydd lleol lle bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddysgu gan y rhai sydd ar frig eu maes diwydiant.

Shopping cart close