Mae David Jones, Cydlynydd Pontio Dysgwyr o Goleg Sir Benfro wedi cael ei ddewis o blith miloedd o enwebiadau i ennill Gwobr Arian Addysgu Genedlaethol Pearson. Cafodd David ei anrhydeddu â Gwobr Arian am Ragoriaeth mewn Addysg Anghenion Arbennig am ei ymrwymiad rhagorol i newid bywydau’r dysgwyr y mae’n gweithio gyda nhw bob dydd.
Mae David wedi treulio blynyddoedd yn gweithio gyda dysgwyr bregus ag anghenion amrywiol. Mae e’n ymroddedig i sicrhau bod gan bob dysgwr lais a’u bod yn cael eu dathlu am eu sgiliau a’u doniau yn ogystal â’u hamrywiaeth.
Bob blwyddyn mae David yn rhoi bron i 100 awr o’i amser sbâr i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi a’u hyfforddi’n llawn i’w galluogi i ddangos eu sgiliau mewn cystadlaethau. Mae ei agwedd a’i ethos positif heintus o amgylch yr hyn y gellir ei gyflawni gyda meddylfryd sy’n canolbwyntio ar atebion yn cael effaith ddramatig ar bawb sy’n ei gyfarfod. O sefydliadau Cymru gyfan i ddysgwyr unigol a’u teuluoedd, mae David yn newid bywydau gyda’i ymrwymiad.
Mae David bellach wedi cyrraedd y rhestr fer i ennill un o ddim ond 16 Gwobr Aur, a fydd yn cael eu cyhoeddi a’u dathlu mewn seremoni gala yn Llundain ar 25 Tachwedd a’i darlledu ar y BBC, gyda’r enillwyr yn cael eu dangos ar The One Show.
Cyhoeddwyd cyflawniad David ar Ddiwrnod Cenedlaethol ‘Diolch i Athrawon’, digwyddiad blynyddol sy’n dathlu rôl addysgwyr ar draws y DU am y rôl werthfawr y maent yn ei chwarae mewn cymunedau ac wrth siapio pobl ifanc. Eleni, ymunwyd â myfyrwyr gan enwogion gan gynnwys Syr Michael Morpurgo, Edith Bowman, Bobby Seagull, Ore Oduba a Nadiya Hussain i nodi cyflawniadau eu hathrawon.
Mae Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson yn ddathliad blynyddol o ragoriaeth mewn addysg sy’n cael ei redeg gan yr Ymddiriedolaeth Gwobrau Addysgu, elusen annibynnol sydd bellach yn ei 25ain blwyddyn, sy’n cydnabod y gwaith sy’n newid bywydau ym myd addysg, gan amlygu’r rôl hanfodol y mae addysgwyr yn ei chwarae a’r gwaith sy’n cael ei gyflwyno mewn ysgolion a cholegau bob dydd.
Dywed Michael Morpurgo, awdur, cyn Fardd Plant Cymru, a Llywydd yr Ymddiriedolaeth Gwobrau Addysgu:
“Rydw i’n cael fy ysbrydoli gan ymroddiad athrawon a’r effaith aruthrol maen nhw’n ei gael ar fywydau’r bobl ifanc maen nhw’n eu tiwtora, yn eu cefnogi, yn eu hannog ac yn eu hysgogi bob dydd. Mae’r rôl werthfawr maen nhw’n chwarae tu mewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobl ifanc ledled y wlad i gyflawni eu potensial. Mae’n bleser mawr gennyf longyfarch enillwyr Gwobrau 2023 a diolch iddyn nhw i gyd am y cyfraniadau anhygoel maen nhw wedi gwneud i’n cymunedau.”
Ychwanegodd Sharon Hague, Uwch Is-lywydd Ysgolion Pearson UK:
“Hoffen ni longyfarch enillwyr Arian heddiw ar eu cyflawniadau anhygoel. Allwn ni ddim diystyru’r cyfraniad enfawr y mae ysgolion yn ei wneud i fywydau ein pobl ifanc ac mae David yn enghraifft ysbrydoledig o’r effaith gadarnhaol y gall unigolyn ei chael ar ddisgyblion a chymunedau.”
Dywedodd Matt Waring, Rheolwr Sianel Addysg a B2B yn Logitech, noddwr y Wobr am Ragoriaeth mewn Addysg Anghenion Arbennig:
“O ddydd i ddydd, mae addysgwyr rhagorol yn chwarae rhan hanfodol wrth feithrin potensial myfyrwyr ledled y DU a dydy hyn ddim yn bwysicach yn unman nag mewn addysg anghenion arbennig. Mae’n bleser mawr gennym ni gydnabod y cyfraniad hwn trwy ein cysylltiad â Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson. Llongyfarchiadau i David ar y gydnabyddiaeth ragorol hon.”