Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Partneriaeth i rymuso mynediad i sgiliau technegol uwch ledled Cymru

Group photo in Senedd.

Yn y Senedd yr wythnos hon, daeth pum coleg AB a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant at ei gilydd i lansio rhwydwaith newydd o Athrofeydd Technegol Uwch i fynd i’r afael â thanberfformio ym marchnad lafur Cymru.

Wrth i economi Cymru adfer ar ôl y pandemig, ac wrth i weithwyr straffaglu gyda’r argyfwng costau byw, bydd y bartneriaeth yn defnyddio grymoedd Prifysgol Cymru i ddod â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a’i cholegau cyfansoddol, sef Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, yn ogystal â Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro, Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot, a Choleg Sir Benfro, at ei gilydd i ffurfioli’r rhwydwaith.

Mynychwyd y lansiad gan y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles AS.

Dywedodd Jeremy Miles: “Rwy’n croesawu’r enghraifft hon o gydweithio rhwng sefydliadau AB ac AU i gryfhau’r ddarpariaeth addysg dechnegol uwch, arloesi ac ymchwil gymhwysol.

“Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu sgiliau lefel uwch i ddysgwyr ar draws y sector addysg drydyddol gyfan.

“Mae’r bartneriaeth newydd gyffrous hon yn dangos yn union yr hyn y gall darparwyr o bob rhan o’r sector ei gyflawni pan fyddant yn gweithio gyda’i gilydd.”

Meddai’r Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor: “Rydym yn ymateb i Lywodraeth Cymru a’r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Dengys tystiolaeth yr ymchwil diweddar yn glir bod angen brys i ddiwygio darpariaeth sgiliau lefel uwch a’n hymrwymiad fel rhwydwaith i chwarae ein rhan yn y broses hon.”

Bydd y bartneriaeth yn sefydlu rhwydwaith o Athrofeydd Technegol Prifysgol Cymru i gyflwyno rhaglen o gymwysterau technegol uwch ar draws sectorau blaenoriaeth economaidd a chymdeithasol wedi’u gyrru gan anghenion cyflogwyr. Bydd yn darparu cyfleoedd dysgu uwch yn agosach at adref a chynnig cryfach i ‘ennill wrth ddysgu’ trwy astudio’n rhan amser a phrentisiaethau.

Dywedodd Pennaeth Coleg Sir Benfro, Dr Barry Walters: “Mae Coleg Sir Benfro yn falch iawn o fod yn cryfhau’r cydweithio gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ymhellach. Bydd y cydweithio hwn yn galluogi pobl leol i uwchsgilio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau. Gyda’r galw posibl am sgiliau technegol lefel uwch yn sgîl y datblygiadau lleol yn yr Hafan, mae’r cydweithio hwn hefyd yn cynnig mynediad i’n dysgwyr at ddarpariaeth a fydd yn eu paratoi ar gyfer y cyfleoedd swyddi newydd yn y sector Ynni Adnewyddadwy.”

Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd Iestyn Davies, Dirprwy Is-Ganghellor a Deon Addysg, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol y brifysgol:“Rydym yn falch iawn o lansio Sefydliadau Technegol Prifysgol Cymru heddiw a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith hyd yma. Mae angen rhagor o sgiliau lefel graddedig a ddarperir mewn ffordd sy’n cyd-fynd â bywydau go iawn ein dinasyddion a gallwn yn awr edrych ymlaen at ddatblygu ffordd newydd o gyflwyno, ariannu a rheoleiddio darpariaeth sgiliau Lefel Uwch.”

Noddwyd y digwyddiad gan Elin Jones AS, Llywydd, ac roedd yn cynnwys cyflwyniad i’r rhwydwaith gan Mike James, Prif Weithredwr, Grŵp Colegau Caerdydd a’r Fro ar ran y bartneriaeth AB. Gan siarad cyn y digwyddiad, meddai Mike James: “Mae pob un o’n cydweithwyr wedi adeiladu partneriaethau cryf gyda phrifysgolion Cymru ac rydym wedi ymrwymo i barhau gyda hyn. Mae’r bartneriaeth newydd a chyffrous hon yn cynnig sector deuol, cydlynol wedi’i adeiladu ar bartneriaeth a chydweithredu diffuant.”

Shopping cart close