Mae’r dysgwr peirianneg Reuben Whitehead wedi bod yn troi pennau gyda’i ddoniau mecanyddol pan wnaeth e ddylunio ac adeiladu ei go-cart batri ei hun yn ddiweddar.
Mae Reuben, sy’n gefnogwr angerddol Fformiwla Un, yn gweithio’n rhan-amser yn West Wales Karting a phenderfynodd ailadeiladu cart yn gynharach eleni ar ôl iddyn nhw fod mor garedig â rhoi cart a oedd yn bodoli eisoes iddo.
Roedd y broses yn cynnwys tynnu’r cart i lawr i’r siasi ac yna ei adnewyddu. Yna gosodwyd agwedd drydanol i’r cart a mowntiau ffabrigo ar gyfer y batris a’r modur a wnaed o ffibr carbon a dur.
Y cydrannau a’r deunyddiau allweddol a ddefnyddiwyd oedd dur ar gyfer y siasi, alwminiwm ar gyfer yr ymylon, a chynnwys ffibr carbon ar gyfer y mowntiau modur a’r batri.
Mae’r modur yn cynhyrchu 2.5hp ac mae ganddo gyfradd effeithlonrwydd o 90% pan fydd ar waith. Y trorym a gynhyrchir yw 8.4-troedfedd pwys pan fydd ar waith ac mae’r modur yn refio 1500RPM.
Esboniodd Reuben bwrpas ei brosiect, “Fe wnes i adeiladu’r Go-Kart achos fy mod i’n angerddol am chwaraeon moduro ac yn mwynhau cartio mewn cystadlaethau lleol a gyda ffrindiau. Felly i mi, roedd y cyfle i adeiladu cart trydan yn gyffrous ac yn rhywbeth roedd angen i mi wneud i ddefnyddio fy sgiliau rydw i wedi’u datblygu drwy gydol fy amser yn y Coleg. Adeiladais i’r prosiect hefyd gan fy mod yn gwybod ei fod yn rhywbeth y byddwn i’n mwynhau gwneud ac yn gallu dysgu sgiliau newydd ar hyd y ffordd. Roedd gallu gwneud gwaith ymarferol gyda’r cart a deall yr hanfodion a’r agweddau cymhleth yn bwysig ar gyfer fy natblygiad fel darpar beiriannydd chwaraeon moduro, gobeithio, un diwrnod gyda Fformiwla Un.”
Cymerodd Reuben ei brawf gyntaf yn y car yn gynharach y mis hwn gan ddefnyddio’r trac sydd wedi’i leoli yn West Wales Karting.
Bu Reuben hefyd yn trafod yr hyn sy’n ei ysbrydoli i gyflawni ei yrfa ddelfrydol.
Eglurodd Reuben, “Yr unigolion sy’n fy ysbrydoli yw fy mam, achos mae hi mor ddewr a bob amser yn credu ynddo i ac yn fy nghefnogi. Fy niweddar lysdad, wnaeth a ddim roi’r ffidil yn y to, hyd yn oed ar yr adegau anoddaf, ac roedd bob amser yn dal i ymladd hyd yn oed pan oedd popeth yn ei erbyn yn ogystal â dysgu i mi os ydych chi’n gweithio’n ddigon caled bod unrhyw beth yn bosib. Yn olaf, Lewis Hamilton am ddangos unwaith eto gyda gwaith caled y gallwch chi gyflawni unrhyw beth ac nad oes unrhyw freuddwyd na nod yn rhy fawr, hefyd y ffordd y mae’n ymddwyn ar ôl colledion caled ar y trac rasio.”
Yn ddysgwr medrus, mae Reuben yn treulio llawer o amser yn y gweithdy peiriannau tra’n astudio yn y Coleg lle mae wedi datblygu sgiliau gweithio gyda turnau a pheiriannau melino, technegau offer gosod â llaw yn ogystal â CAD ac arferion mesur manwl gywir sydd wedi cynorthwyo ei wybodaeth am fyd dylunio a pheirianneg ceir.
Ar wahân i astudiaethau Reuben yn y Coleg, mae wedi dysgu llawer o sgiliau trosglwyddadwy iddo’i hun.
Dywedodd Reuben, “Allaf i ddim cymryd y clod i gyd, ar ôl bod yn ddigon ffodus i gael profiad o adnewyddu ceir clasurol gyda fy llysdad yn tyfu i fyny, yn ogystal â gallu adeiladu ceir rali pan ar brofiad gwaith wrth astudio yn fy mlwyddyn gyntaf yn y Coleg. Mae hyn yn sicr wedi fy helpu i ddysgu ac adeiladu set sgiliau y gellir ei gymhwyso mewn nifer fawr o amgylcheddau peirianneg. Mae treulio amser yn y gweithdy a dysgu gan diwtoriaid sydd â phrofiad go iawn yn y diwydiant wedi fy helpu.”
Dywedodd Will Bateman, Rheolwr Maes Cwricwlwm Peirianneg, pa mor falch yw’r adran o Reuben, “Mae Reuben wedi gweithio i safon gyson ragorol drwy gydol y rhaglen ddwy flynedd. Rydyn ni’n hynod falch o’i brosiect terfynol, sydd wedi arddangos ei sgiliau a’i ddysgu o’r cwrs. Mae Reuben yn llysgennad peirianneg go iawn, ar ôl iddo siarad â nifer o grwpiau 14-16 oed ar ddewisiadau addysg ôl-orfodol.”
Mae Reuben yn bwriadu dod yn Beiriannydd Chwaraeon Modur yn Fformiwla Un ar ôl ei astudiaethau ac mae’r prosiect hwn wedi ysgogi ei gymhelliant i ddangos i ddarpar gyflogwyr pa mor dalentog yw e.
Dysgwch fwy am y cwrs Peirianneg yn y Coleg.