Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Dysgwyr yn Cael Blas ar Waith

Students and local employers

Yr wythnos diwethaf cynhaliodd Biwro Cyflogaeth a Menter Coleg Sir Benfro Ginio Cyflogwr llwyddiannus arall a noddwyd gan Dragon LNG.

Rhoddodd y digwyddiad gyfle i ddysgwyr sy’n astudio Busnes, Gofal Anifeiliaid, Chwaraeon, Celfyddydau Perfformio a Gwasanaethau Cyhoeddus gwrdd â chyflogwyr dros ginio ym Mwyty SEED y Coleg sy’n cael ei redeg gan fyfyrwyr.

Mynychodd gweithwyr proffesiynol diwydiant o Hamdden Sir Benfro, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, Heddlu Dyfed Powys a Dragon LNG y digwyddiad i siarad â’r dysgwyr. Siaradodd pob un am sut beth yw gweithio yn eu diwydiant ynghyd â thrafod opsiynau o ran rhagolygon gyrfa a chyfleoedd gwaith i ddysgwyr eu hystyried ar ôl cwblhau eu cwrs.

Dyma rai o sylwadau’r dysgwyr yn dilyn y cinio: “Dw i’n teimlo fy mod i wedi dysgu llawer a glynu at yr hyn dw i eisiau gwneud yn y dyfodol” ac “Roedd y cyflogwyr yn addysgiadol iawn ac yn barod i helpu ynglyn â beth i’w wneud i gael swydd. Ro’n nhw’n barod iawn i helpu i ddod o hyd i ddewisiadau a llwybrau gwahanol i’w cymryd yn y dyfodol.”

Dywedodd cyflogwyr: “Mae wedi bod yn ddefnyddiol deall mwy am ddyheadau a safbwyntiau’r myfyrwyr a’u gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth o’r cwmnïau sydd ar garreg eu drws” yn ogystal â “Dyma gyfle gwych i siarad â phobl ifanc sydd yn yr un sefyllfa â mi flynyddoedd yn ôl.”

Hoffai Coleg Sir Benfro a Dragon LNG ddiolch i bawb a gymerodd ran am roi o’u hamser i gwrdd â dysgwyr a’u helpu i archwilio’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn yr ardal leol.

Ychwanegodd Karen Wood, Rheolwr Rhanddeiliaid a Chyfathrebu Dragon LNG: “Rydyn ni wrth ein bodd yn parhau i gefnogi’r digwyddiadau anhygoel hyn, yn enwedig ar ôl rhai blynyddoedd heriol yn ystod y pandemig. Mae gweld dysgwyr a chyflogwyr yn cael sgwrs ddwys unwaith eto a chael adborth cadarnhaol wir yn dangos yr effaith y gall y mathau hyn o ddigwyddiadau ei chael, nid yn unig ar y dysgwyr ond ar y cyflogwyr hefyd. Pwy a wyr pa bethau gwych all ddigwydd o’r ymrwymiadau hyn. Diolch i’r tîm anhygoel yn y Coleg am ddigwyddiad gwych arall.”

Mae Biwro Cyflogaeth a Menter y Coleg, a drefnodd y digwyddiad, yn wasanaeth recriwtio dysgwyr a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru. Mae tîm y Biwro Cyflogaeth a Menter yn helpu dysgwyr y Coleg i ysgrifennu CV, yn eu cynorthwyo â’u sgiliau cyfweld, lleoliadau profiad gwaith a datblygu sgiliau entrepreneuraidd.

Mae’r tîm hefyd yn cynnig Gwasanaeth Recriwtio AM DDIM i gyflogwyr sy’n dymuno hyrwyddo eu swyddi gwag i ddysgwyr.

Os ydych yn gyflogwr sydd â diddordeb mewn defnyddio’r Gwasanaeth Recriwtio AM DDIM yna cysylltwch â Jennifer Dyer, Swyddog Cyswllt Cyflogwyr ar 01437 753 463 neu e-bostiwch recruit@pembrokeshire.ac.uk

Gall y tîm hefyd gynnig Digwyddiadau Recriwtio Pwrpasol AM DDIM i gyflogwyr. Os oes gennych ddiddordeb, yna cysylltwch â Susie Watts, Swyddog Cyswllt Cyflogwyr ar 01437 753 379 neu e-bostiwch employerevents@pembrokeshire.ac.uk

Shopping cart close