Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Mewnwelediadau Trochi: Dysgwyr Peirianneg yn Ymweld â Phrifysgol Abertawe

Students wearing virtual reality gear on Swansea University trip

Ymwelodd tri deg o ddysgwyr Peirianneg Fecanyddol a Thrydanol â Champws y Bae Prifysgol Abertawe yn ddiweddar i gael cipolwg ar ‘Diwydiant 4.0’, ‘Cobots’ a Realiti Rhithwir.

Darparodd staff o’r adrannau Gwyddoniaeth a Pheirianneg amlddisgyblaethol ym Mhrifysgol Abertawe gyfuniad o weithgareddau ymarferol a theory ysbrydoledig i ddysgwyr. Ar ôl cyrraedd, cyflwynodd Jennifer Thompson, Uwch Ddarlithydd a Thiwtor Derbyn yn Adran Peirianneg Fecanyddol Prifysgol Abertawe ddarlith ar ‘Diwydiant 4.0: Gweithgynhyrchu’r Dyfodol,’ a oedd yn archwilio datblygiadau allweddol, yn rhoi sylw i bryderon a manteision y cynnydd diwydiannol i 4.0 a sôn am Dechnoleg Berswadiol, Systemau Seiber Ffisegol (CPS), Realiti Rhithwir ac Estynedig a Roboteg Gydweithredol (Collaborative Robotics – Cobots).

Dywedodd Dr Jennifer Thompson: “Rydym bob amser wrth ein bodd pan gawn y cyfle i arddangos y posibiliadau y mae gradd/gyrfa mewn Peirianneg Fecanyddol yn eu darparu ar ôl astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

“Mae dyfodol gweithgynhyrchu yn esblygu i wneud defnydd o Ddata Mawr, AI ac i wella’r bont rhwng y byd ffisegol a digidol – y 4ydd Chwyldro Diwydiannol (Diwydiant 4.0.) O’r herwydd, bydd technolegau fel Realiti Rhithwir a Roboteg Gydweithredol yn dod yn gyffredin mewn amgylcheddau gwaith a chartrefi felly, mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth gyda’n cenhedlaeth nesaf o beirianwyr o’r newidiadau cyffrous sydd i ddod.

“Roedd yn wych gweld myfyrwyr Coleg Sir Benfro yn profi ac yn rhyngweithio â rhywfaint o’r dechnoleg Diwydiant 4.0 sydd gennym yn yr Adran. Gobeithio, fe wnaethon ni ysbrydoli digon o beirianwyr Diwydiant 4.0 y genhedlaeth nesaf!”

Ar gyfer elfen ymarferol yr ymweliad, cymerodd y dysgwyr ran mewn profiad Realiti Rhithwir gyda Dr Peter Dorrington a chawson nhw daith o amgylch yr ystod amrywiol o roboteg gydweithredol y mae’r Adran Wyddoniaeth a Pheirianneg yn gweithio gyda nhw. Cafodd y dysgwyr hefyd gyfle i ddysgu mwy am y cyrsiau gradd Peirianneg Fecanyddol a’r cyfleoedd sydd gan Brifysgol Abertawe i’w cynnig gyda Dr Andrew Rees, Athro Cyswllt mewn Peirianneg Fecanyddol.

Mynychodd Reuben Whitehead, dysgwr Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch Lefel 3 yr ymweliad a dywedodd: “Rhoddodd yr ymweliad â Phrifysgol Abertawe fewnwelediad buddiol i’r hyn y gallai astudio Peirianneg mewn addysg uwch fod, yn ogystal â’r cyfleoedd a gyflwynir wrth astudio yn Abertawe fel y Rhaglen Fformiwla i Fyfyrwyr. Roedd gallu profi datblygiadau newydd a rhai sydd ar y gweill mewn Realiti Rhithwir a Roboteg wir yn rhoi cipolwg cyffrous ar yr hyn sydd gan y dyfodol i’w gynnig! Yn gyffredinol, rhoddodd y daith fewnwelediad gwych i astudio Peirianneg yn y brifysgol ac yn sicr fe helpodd gyda phenderfyniadau ynghylch fy nyfodol mewn addysg.”

Ychwanegodd Jake Mowbray, Darlithydd mewn Peirianneg Fecanyddol yng Ngholeg Sir Benfro: “Mae’n hanfodol bod ein dysgwyr yn cael y cyfle i archwilio’r technolegau newydd a chyffrous hyn. Mae arloesi mewn roboteg a digideiddio yn gwthio’r ffiniau ar gyfer gweithgynhyrchu, ac mae angen i’n peirianwyr yn y dyfodol fod yn meddwl sut y bydd hyn yn cyfeirio eu llwybr gyrfa posibl Mae’r digwyddiad hwn yn dangos manteision cydweithio rhwng Addysg Bellach ac Addysg Uwch gan ei fod yn canolbwyntio ar adeiladu dyheadau ein dysgwyr.”

Shopping cart close