Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Ifan yn Cofleidio rôl Llysgennad y Gymraeg

Ifan Wyn Phillips

Mae’r Prentis-drydanwr Ifan Wyn Phillips yn cofleidio ei rôl fel llysgennad y Gymraeg i Goleg Sir Benfro ac yn Llysgennad Prentisiaethau i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Bellach yn ei drydedd flwyddyn fel Llysgennad Prentisiaethau, a benodwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), mae Ifan yn frwd dros hyrwyddo prentisiaethau dwyieithog i ddysgwyr ledled Cymru.

Fel rhan o’i rôl llysgenhadol mae Ifan wedi ymgymryd â llawer o weithgareddau hyrwyddo gan gynnwys siarad â phlant ysgol uwchradd ym Mharc y Scarlets, Llanelli am ei swydd a manteision prentisiaethau. Mae hefyd wedi cymryd rhan mewn Instagram Takeovers a drefnwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r NTfW yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau.

Yn Gymro Cymraeg o Grymych, mae Ifan yn gweithio tuag at Brentisiaeth mewn Gosodiadau Trydanol trwy EAL, a gyflwynir yn ddwyieithog gan Goleg Sir Benfro ac mae’n gweithio i’r busnes teuluol, D. E. Phillips a’i Feibion Cyf, ar adeiladau preswyl, masnachol ac amaethyddol.

Arweiniodd ei angerdd dros hybu’r Gymraeg at ennill Gwobr Addysg Bellach a Phrentisiaeth William Salesbury yng Ngwobrau Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2021. Mae’r wobr yn cydnabod cyfraniad dysgwr neu brentis i’r Gymraeg a diwylliant Cymru o fewn coleg addysg bellach neu darparwr prentisiaeth.

Dywedodd Ifan: “Dw i’n mwynhau helpu i hyrwyddo prentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ac roedd yn braf derbyn y wobr gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y gwaith dw i’n ei wneud. Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn hysbysebu a hyrwyddo’r iaith er mwyn cael cymaint o bobl â phosib i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae’n cadw’r iaith a’r traddodiadau yn fyw ac yn helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei tharged o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Mae Coleg Sir Benfro yn helpu Ifan a’i gyd-ddysgwyr Cymraeg eu hiaith i barhau â’u haddysg yn eu hiaith gyntaf. Mae aelod o staff sy’n siarad Cymraeg yn cynorthwyo gydag adolygiadau ac yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr siarad Cymraeg.

Mae Janice Morgan, Swyddog Datblygu’r Gymraeg y Coleg, wedi cymryd rôl ychwanegol fel tiwtor cymorth dwyieithog, a ariennir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a dywedodd: “Mae Ifan yn parhau i fod yn llysgennad y Gymraeg gwych i’r Coleg ac yn achub ar bob cyfle, sy’n cael ei adlewyrchu yng ngwobr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a enillodd.”

Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Darganfod mwy am y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog o fewn y Coleg

Shopping cart close