Mae Coleg Sir Benfro a Chlwb Ceir Clasurol Sir Benfro wedi cymryd y camau cyntaf i gydweithio mewn partneriaeth, i ddatblygu a hyrwyddo cyrsiau cynnal a chadw ceir, gyda’r nod o ddatblygu hyder a sgiliau ymarferol i ddechreuwyr a’r rhai sy’n frwd dros geir fel ei gilydd.
Roedd ceir clasurol i’w gweld yn Expo Peirianneg a Chyfrifiadura diweddar y Coleg, lle bu iddynt ennyn llawer iawn o ddiddordeb gydag ymwelwyr o bob oed.
Dywedodd Nigel Richards o adran fodurol y Coleg,
“Mae cydweithio â Chlwb Ceir Clasurol Sir Benfro yn gyfle gwych i wneud arbenigedd a chyfleusterau modurol ein Coleg yn hygyrch i bawb sy’n frwd dros geir. Fe wnaethom ymrwymo i gryfhau ein cysylltiadau â Chlwb Ceir Clasurol Sir Benfro”.
Ar hyn o bryd mae Coleg Sir Benfro yn cynnig dosbarth nos Cynnal a Chadw Ceir Sylfaenol, sy’n rhoi hyblygrwydd i gyfranogwyr weithio ar eu ceir eu hunain – boed yn rhai clasurol neu’n rhai modern – tra’n dysgu sgiliau gwerthfawr. Mae’r Coleg hefyd yn awyddus i gynnig cwrs nos Cynnal a Chadw Ceir Clasurol os oes digon o alw. Ennyn diddordeb dysgwyr hen ac ifanc yn y llawenydd o weithio ar geir, yn rhai clasurol a chyfoes, a all feithrin hobi gwerth chweil a gyrfa foddhaus iawn.
Dywedodd Mike Chilton, Cadeirydd Clwb Ceir Clasurol Sir Benfro,
“trwy weithio mewn partneriaeth â’r Coleg, a’u cyfleusterau helaeth, byddwn yn gallu annog a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o selogion ceir.”
Wedi’i ffurfio ym 1983 mae gan aelodau’r clwb gyfoeth o brofiad, gan gynnwys arbenigwyr ceir, perchnogion garejis, mecanyddion a selogion, sydd i gyd yn barod i helpu newydd-ddyfodiaid, a throsglwyddo eu gwybodaeth.
Mae’r Coleg yn bwriadu cynnig cyrsiau dydd a phrofiadau i’r clwb a’r gymuned leol, gan ganolbwyntio ar bynciau fel Cerbydau Hybrid a Thrydan, a meysydd arbenigol fel tiwnio a chynnal a chadw brêcs.
Cyfnod cyffrous o’n blaenau i’r Coleg a Chlwb Ceir Clasurol Sir Benfro! I gael rhagor o wybodaeth, neu i fynegi diddordeb mewn cyrsiau yn y dyfodol, cysylltwch â derbyniadau@colegsirbenfro.ac.uk
Ac am fwy o wybodaeth am Glwb Ceir Clasurol Sir Benfro e-bostiwch: pccclubsecretary2@gmail.com