Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Prifysgol De Cymru yn darparu ysbrydoliaeth dylunio i fyfyrwyr y Coleg

Prifysgol De Cymru yn darparu ysbrydoliaeth dylunio i fyfyrwyr y Coleg

Ddydd Iau (17 Tachwedd 2022), daeth Emma Jones, Pennaeth y radd BA Hyrwyddo Ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru i ymweld â myfyrwyr ar gyrsiau Dylunio Graffig a Darlunio a Dylunio Cynaliadwy y Coleg.

Rhoddodd Emma gipolwg i ddysgwyr ar yr ystod o gyrsiau gradd creadigol sydd gan Brifysgol De Cymru i’w cynnig ac arweiniodd weithdy ar gyfer ein dysgwyr creadigol blwyddyn un. Yn y prynhawn, bu Emma yn gweithio gyda myfyrwyr blwyddyn dau sy’n gweithio ar eu ceisiadau ‘Marsiandïo Gweledol’ Cystadleuaeth Sgiliau Cymru. Yn dilyn yr ymweliad, rhoddodd Emma ddeunydd cyfeiriol a llyfrau braslunio defnyddiol i’r adran greadigol.

Dywedodd arweinydd y cwrs, Louise Sheppard “Roedd yn ymdrech aruthrol i ymweld â chymaint o offer, a oedd yn cynnwys rhesel o ddillad, a’r rhodd o rai pecynnau ffenestr enghreifftiol. Byddwn yn bendant yn defnyddio’r pecynnau hyn i baratoi ar gyfer ceisiadau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ar gyfer Marsiandïo Gweledol.”

Croesawodd y Coleg hefyd gyn-fyfyriwr yn ôl, Lily Sheppard, sydd bellach yn fyfyriwr blwyddyn tri BA Hyrwyddo Ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru. Dywedodd Lily “Roedd yn hyfryd bod nôl yn fy hen weithle.”

Myfyriodd Lily ar y cyfleoedd y mae wedi’u mwynhau yn ystod ei chyfnod yn y brifysgol yng Nghaerdydd a thaflu goleuni ar rai o’r prosiectau y mae wedi gweithio arnynt.

Dywedodd Louise “Roedd yn wych gweld Lily ac i’r myfyrwyr allu ei holi am ei gwaith, ei bywyd prifysgol a’i hastudiaethau.”

Dywedodd Emma “Fe wnes i ei fwynhau’n fawr a gobeithio y gallwn ni adeiladu ar y mathau hyn o ddiwrnodau. Efallai y gallwch ddod aton ni y tro nesaf a byddwn yn ei gyflwyno fel taith ymchwil.”

Yn sicr cafodd y myfyrwyr Dylunio Graffig a Darlunio a’r myfyrwyr Dylunio Cynaliadwy eu hysbrydoli gyda diddordeb mewn astudio’r cwrs Hyrwyddo Ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru ac maen nhw’n edrych ymlaen at ymweld yn fuan.

Shopping cart close