Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Plannu ar gyfer Dyfodol Gwyrddach

Animal Learners planting trees at Folly Farm

Mae dysgwyr Gofal Anifeiliaid wedi bod yn gweithio ar y cyd â Folly Farm a Choed Cadw (Woodland Trust) i greu cynefinoedd llawn coed er budd cadwraeth a’r amgylchedd.

Rhoddodd Coed Cadw’r coed fel rhan o’u prosiect Plannu Coed ar gyfer sefydliadau addysgol a chymunedau.

Roedd dysgwyr yn awyddus i fod yn rhan o’r prosiect hwn ac aethon nhw ati i blannu dros 300 o goed ar draws y parc.

Dywedodd y dysgwyr Sarah a Sinead, “Fe wnaethon ni i gyd fwynhau plannu’r coed a mwynhau gweithio gyda’n gilydd fel tîm. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y cyfle i helpu i adeiladu amgylchedd gwell ar gyfer y bywyd gwyllt yn yr ardaloedd cyfagos ac yn Folly Farm.

“Roedd hyn yn cynnwys plannu gwahanol fathau o lasbrennau a’u diogelu gyda gorchuddion plastig, a fydd yn hybu amgylchedd tŷ gwydr i’r coed. Mae’r amrywiaeth o goed yn caniatáu mwy o amrywiaeth yn yr ardal a fydd yn helpu gyda pheillio coed yn lleol. Diolch yn fawr iawn i Jack, Swyddog Cadwraeth Folly Farm, am ein helpu gyda hyn ac am ddangos y ffordd i ni.”

Ymhlith y coed a blannwyd roedd y griafolen, ceirios gwyllt, celyn, cyll, ysgawen, derw, y ddraenen wen a’r ddraenen ddu.

Dywedodd Vicki Baddeley, Uwch Arweinydd Prosiect yn Coed Cadw, “Rydyn ni mor falch o’r nifer o goed am ddim rydyn ni wedi gallu eu rhoi, gan wybod y byddan nhw’n cael eu plannu lle gallan nhw wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

“Coed yw un o’n hamddiffynfeydd cryfaf yn erbyn yr argyfwng hinsawdd. Mae tystiolaeth yn dangos eu bod yn brwydro yn erbyn effeithiau dinistriol llifogydd, llygredd a thywydd a thymheredd eithafol. Nhw yw’r storfeydd carbon eithaf. Maen nhw’n hafanau hanfodol i fywyd gwyllt a phobl. Ac maen nhw’n gwneud y blaned yn lle iachach, hapusach i bawb.”

“Rydyn ni yng nghanol argyfwng hinsawdd a natur na ellir ei oresgyn heb weithredu ar y cyd, felly byddwn ni’n annog pob ysgol neu grŵp cymunedol a all, i gymryd rhan a phlannu mwy o goed!”

Mae Folly Farm a Choleg Sir Benfro yn gobeithio y bydd y coed yn helpu cadwraeth ac yn annog rhywogaethau newydd o fywyd gwyllt i’r ardal.

Dywedodd Jack Gradidge, Swyddog Cadwraeth yn Folly Farm, “Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o sefydliadau’n cydweithio er budd bywyd gwyllt. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Coed Cadw am eu rhodd o goed brodorol ac wrth gwrs, i’r myfyrwyr am roi’r ymdrech i’w plannu mor dda. Roeddwn i wrth fy modd pan ddaeth y prosiect at ei gilydd, a gobeithio gall y myfyrwyr gymryd mwy o ran mewn cynlluniau pellach i ‘ailwylltio’ ardaloedd o dir o amgylch ein safle 250 erw i gynyddu bioamrywiaeth. Mae’r clawdd hwn yn ddechrau gwych, ac rwy’n siŵr gydag ychydig o TLC y bydd yn cynhyrchu blodau ar gyfer peillwyr ac aeron ar gyfer adar.”


I ddarganfod mwy am y cyrsiau Gofal Anifeiliaid yn y Coleg ewch i www.pembrokeshire.ac.uk

Shopping cart close