Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Coleg Sir Benfro Wedi’i Gymeradwyo Fel Cyfryngwr ar Gyfer Cynllun Kickstart Gwerth £2bn y Llywodraeth

Groups of business people talking outside office building.

Yn gyfryngwr cymeradwy ar gyfer rhaglen KickStart gwerth £2bn y Llywodraeth gyda’r nod o helpu pobl ifanc yn ôl i gyflogaeth, mae Coleg Sir Benfro yn annog busnesau ledled Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion i gysylltu.

Wedi’i gyhoeddi gan y Canghellor Rishi Sunak fel rhan o’i Gynllun ar gyfer Swyddi, bydd y cynllun newydd yn gweld cwmnïau’n gallu cofrestru i gynnig lleoliadau gwaith chwe mis i bobl ifanc 16-24 oed sy’n hawlio Credyd Cynhwysol. Bydd y cynllun a ariennir gan y llywodraeth yn cwmpasu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol perthnasol am 25 awr yr wythnos ynghyd â chyfraniadau Yswiriant Gwladol a chyfraniadau cofrestru awtomatig cyflogwyr.

Mae’r cynllun yn caniatáu i gwmnïau sy’n cynnig 30 neu fwy o leoliadau wneud cais yn uniongyrchol tra gall y rhai sydd â llai o leoliadau gysylltu â Choleg Sir Benfro a fydd yn gweithredu fel eich cynrychiolydd lleol gan grwpio cyflogwyr llai gyda’i gilydd. Bydd y Coleg yn gwirio bod eich busnes yn gymwys i gael y cyllid cyn cyflwyno’r cais ar eich rhan.

Gall cyflogwyr ddarganfod mwy am y cynllun ar Wefan y Llywodraeth neu trwy gysylltu â Biwro Cyflogaeth Coleg Sir Benfro: recruit@pembrokeshire.ac.uk neu 01437 753 463.

Shopping cart close