Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Rhowch hwb i’ch gyrfa gyda’r Rhaglen Barod am Waith TG

Woman tying on a neon led lit keyboard wearing a head set

Mewn datblygiad cyffrous i’r rhai sydd am ddatblygu eu gyrfaoedd mewn TG a gweinyddiaeth swyddfa, mae’r Rhaglen Barod am Waith TG yng Ngholeg Sir Benfro ar fin cael ei lansio ym mis Medi 2024. Mae’r cwrs saith wythnos cynhwysfawr hwn, wedi’i gynllunio i wella hyder a hyfedredd TG yn Microsoft Office (365), yn cynnig cyfuniad unigryw o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth a phrofiad gwaith yn y byd go iawn.

Mae’r rhaglen, a gefnogir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a chyflogwyr lleol, yn cynnwys chwe wythnos o astudio llawn-amser dwys yn y Coleg ac yna lleoliad gwaith wythnos gyda busnes lleol. Bydd cyfranogwyr yn cael y cyfle i gymhwyso eu sgiliau newydd mewn amgylchedd proffesiynol, gan bontio’r bwlch rhwng addysg a chyflogaeth.

Yn ogystal â hyfforddiant TG a Microsoft Office, mae’r rhaglen hefyd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer dilyniant mewn amrywiol feysydd. Mae’n helpu i adeiladu’r sgiliau sydd eu hangen i weithio mewn swyddfeydd ynghyd â rhoi hwb i hyder y rhai sydd efallai wedi bod allan o’r amgylchedd gwaith am gyfnod penodol o amser. Gall cyfranogwyr ddatblygu eu haddysg trwy weithio tuag at Dystysgrif Lefel 2 Agored Cymru mewn Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach.

Dywedodd Nigel Richards, Rheolwr Maes Cwricwlwm ar gyfer Cyfrifiadura, “Rydym yn falch o helpu aelodau o’r gymuned leol sydd angen adeiladu eu hyder i ddychwelyd i’r Gwaith. Rydym yn gwerthfawrogi mai’r cam anoddaf yw’r cam cyntaf hwnnw a gallai’r cwrs hwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol.”

I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais, ewch i Rhaglen Barod am Waith TG

Shopping cart close